Ynglŷn â

Ynglŷn â

Gŵyl mis o hyd gydag arddangosfeydd, trafodaethau, dangosiadau, perfformiadau, digwyddiadau a dathliadau mewn gofodau a llefydd go iawn a rhithwir.

Diffusion

Diffusion 2019 yw’r bedwaredd mewn cyfres o wyliau a gynhelir gennym bob yn eilflwydd. Yn ystod yr ŵyl byddwn yn cyflwyno rhaglen o arddangosfeydd, ymyriadau, sgriniadau, perfformiadau, digwyddiadau a dathliadau mewn pob math o fannau a lleoliadau go iawn a rhithwyr. Yn ogystal â’r cynnwrf o gyfrannu’n uniongyrchol i’r ŵyl a bod yn rhan o ddigwyddiad â chyrhaeddiad rhyngwladol, mae Diffusion 2019 yn cynnig cymaint mwy – cyhoeddiadau print ac arlein, gwefannau, cynnwys ar gyfer ffonau symudol a thrafodaethau ar blatfformau cyfryngau cymdeithasol.

Thema Diffusion 2019 yw Sain+Llun. Bydd yr ŵyl yn archwilio’r berthynas rhwng sain, ffotograffiaeth a chyfryngau lens a sut mae sain yn dylanwadu ar y ffordd y caiff delweddau eu cyfryngu, cyflwyno a’u darllen yn ein diwylliant gweledol cyfoes; ac yn yr un modd, sut y gall cerddoriaeth fod yn brofiad gweledol yn ogystal â chlywedol.

029 2034 1667

Llun - Gwener, 9.30am - 5pm

Partneriaid ac Ariannwyr

Menter gan Ffotogallery yw Diffusion a wnaed yn bosibl gan gefnogaeth hael a phartneriaeth nifer o unigolion a sefydliadau. Carem ddiolch i bawb sydd yn gweithio tuag at gyflawni Diffusion 2019.