Ymweliad

Ymweliad

Mae Caerdydd, prifddinas Cymru, yn ne Cymru ac mae’n hawdd ei chyrraedd o unrhyw le yn y DU neu o wledydd tramor. Mae’n ddwyawr o daith o Lundain ar y tren neu mewn car, a dim ond awr a hanner mewn car o faes awyr Heathrow.

Cyrraedd Yno

Mewn Car

Mae’r M4 yn cysylltu Llundain yn uniongyrchol â Chaerdydd. O ganolbarth a gogledd Lloegr, a’r Alban, mae’n hawdd gyrru i Gaerdydd ar hyd yr M6, M5 a’r M50/M4. O dde a de-orllewin Lloegr, dylid dilyn yr M5 ac yna’r M4, sydd hefyd yn cysylltu â gorllewin Cymru.

Ar y Tren

Mae trenau cyflym yn cysylltu’r rhan fwyaf o ddinasoedd Prydain â Gorsaf Ganolog Caerdydd. Ychydig dros ddwyawr yw’r daith o orsaf Paddington Llundain i Gaerdydd ac mae trenau’n ymadael bob 30 munud yn ystod y dydd. Am amserau trenau, ymweler â National Rail.

Ar y Bws

Gellir cyrraedd Caerdydd ar y bws o nifer o ddinasoedd y DU ar National Express a Megabus.

Awyr

Maes Awyr Caerdydd

Mae gan ddinas Caerdydd faes awyr rhyngwladol ag ehediadau uniongyrchol rheolaidd i gyrchfannau yn y DU a gwledydd Ewropeaidd eraill. Mae’n hawdd cyrraedd Maes Awyr Caerdydd, sydd 12 milltir i’r gorllewin o ganol y ddinas a 10 milltir o Gyffordd 33 yr M4. Am wybodaeth, ymweler â Maes Awyr Caerdydd.

Mae gwasanaeth X91 Bws Caerdydd yn rhedeg rhwng Maes Awyr Caerdydd a Gorsaf Ganolog Caerdydd bob dwyawr yn ystod y dydd, saith diwrnod yr wythnos. Cymer y bws ryw 35 munud o’r orsaf ganolog i’r maes awyr. Gweler map llwybr ac amserlen yma.

Maes Awyr Bryste

Maes Awyr Bryste, Lulsgate Bottom, gogledd Gwlad yr Haf, yw maes awyr masnachol dinas Bryste, Lloegr, a’r cyffiniau. Gellir cyrraedd mwy na 90 o gyrchfannau o’r maes awyr hwn. Am wybodaeth, ymweler â Maes Awyr Bryste.

Ar y bws

Mae Bws Caerdydd yn darparu cludiant ledled y ddinas. Ymweler â Bws Caerdydd am lwybrau, amserlenni a mwy o wybodaeth.

Download Map

Mae’r map poced Diffusion yn gydymaith perffaith i archwilio lleoliadau ar draws Caerdydd ac ymhellach

Canolfannau

Mae'r map google yma'n dangos holl ganolfannau Gŵyl Diffusion ledled y ddinas. Er bod mwyafrif yr arddangosfeydd yn rhedeg rhwng y 1af a'r 30ain o Ebril, mae dyddiau ac amseroedd agor yn amrywio. Rydym wedi gwneud ein gorau i sicrhau bod ein holl wybodaeth yn gywir a chyfredol ond rydym hefyd yn argymell eich bod yn ymweld â gwefannau'r canolfannau unigol er mwyn cadarnhau'r wybodaeth ddiweddaraf.

Bwyta ac Yfed

I ddathlu Diffusion, rydym wedi ymuno â rhai o brif ganolfannau cymdeithasol Caerdydd a fydd yn barod i estyn croeso cynnes i ymwelwyr.

Dyma restr o’r caffis, barrau a bwytai sy’n bartneriaid â Diffusion 2019