Sianel / 12 Chwef 2019

Diffusion 2019: Sound+Vision

Diffusion 2019: Sound+Vision
The Nemesis Machine © Stanza

Mae’n bleser gan Ffotogallery gyhoeddi y cynhelir y pedwerydd rhifyn o’r ŵyl ddwyflynyddol Diffusion: Gŵyl Ffotograffiaeth Ryngwladol Caerdydd, achlysur celfyddydau gweledol mwyaf Cymru, o’r 1-30 Ebrill 2019.

Gyda mis o arddangosfeydd, digwyddiadau a gweithgareddau mewn canolfannau ledled Caerdydd, bydd thema Diffusion 2019, Sain+Gweled, yn archwilio’r berthynas rhwng sain – yn enwedig cerddoriaeth – a ffotograffiaeth a chyfryngau’n seiliedig ar lens. Bydd yr ŵyl yn arddangos defnydd diweddaraf VR, ffotograffiaeth estynedig a thechnegau digidol eraill, gan adeiladu ar gysylltiadau cydweithredol rhwng artistiaid, cynhyrchwyr a chwmnïau cyfryngau Cymru sy’n gweithio’n fyd-eang yn Ewrop, Asia, Gogledd America a’r Dwyrain Canol.

X-Ray Audio © The Bureau of Lost Culture

Un o’r uchafbwyntiau yw X-Ray Audio, gosodwaith gan The Bureau of Lost Culture yn adrodd hanes diwylliant y rhyfel oer, technoleg copïo anghyfreithlon, a miwsig fel gwrthsafiad. Yn yr Undeb Sofietaidd yn ystod y rhyfel oer, daeth cymuned feiddgar o gopïwyr tanddaearol o hyd i ffordd anghyffredin a pheryglus o herio’r sensor trwy gopïo a dosbarthu’r miwsig jazz, roc-a-rôl a Rwsiaidd gwaharddedig a garent – gan adeiladu peiriannau recordio a thorri eu copïau eu hunain ar ddarnau crwn o hen ffilm pelydr-x.

Yn sgil eu ffilm cromen-lawn arobryn, Liminality, a saethwyd yn India, bydd y cydweithwyr creadigol o Gaerdydd, Matt Wright a Janire Najera, yn trochi cynulleidfaoedd yng ngherddoriaeth y band jazz a trip-hop, Slowly Rolling Camera. Mae Juniper, a gomisynwyd gan Ffotogallery ar gyfer Diffusion 2019, yn archwilio sut mae sain a’r ddelwedd symudol yn cyd-doddi o fewn perfformiadau byw.

Mae Atgyfodi John Rea yn cyflwyno lleisiau coll a recordiadau o archifau sain Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan ar ffurf gosodwaith sain amgylchol trochiadol gyda delweddau cael a rhai a ffilmiwyd yn arbennig. Mae’r rhain wedi eu cydblethu’n gyfansoddiad clyweledol cyfoes, gan eu dychwelyd nhw, a’r hyn maen nhw’n ei gynrychioli, i’n cof torfol.

Foley Objects © Jonna Kina

Ar nodyn digri, casglodd y cyfarwyddydd ffilmiau o’r Ffindir Jonna Kina wrthrychau a ddefnyddiwyd gan wahanol artistiaid a dylunwyr sain i greu effeithiau sain Foley mewn ffilmiau. Mae Foley Objects yn cyflwyno casgliad hynod o ddelweddau, fel archif ffotograffig o seiniau, ac fel tro eironig rywle rhwng y dogfennol a’r abswrd o chwareus.

Yn 2008, daeth y ffotograffydd Michal Iwanowski ar draws graffito bach yn ei gymdogaeth yng Nghaerdydd a ddywedai ‘Go home Polish’. Ddegawd wedi hynny, ar ôl refferendwm gynhennus Brexit, mentrodd ar daith 1900 km ar droed rhwng ei ddau gartref – Cymru a Gwlad Pwyl – â phasbort Prydeinig yn y naill law, ac un Pwylaidd yn y llall. Y nod oedd holi pobl ynglŷn â chartref ar daith a gymerai 105 diwrnod i’w chwblhau. I drac sain gan Gwenno, mae’r arddangosfa a ddeilliodd o hyn, Go Home Polish yn adrodd hanes y siwrnai epig.

Go Home, Polish © Michal Iwanowski

Mae Don’t You Wonder Some Times?, arddangosfa a gurawyd yn arbennig yng Nghanolfan y Mileniwm sy’n edrych ar ddatblygiadau mewn recordio a chynhyrchu cerddoriaeth a’r ffyrdd mae cynulleidfaoedd yn ei mwynhau – o’r dechnoleg a ddefnyddiwyd i recordio sain am y tro cyntaf, i’r albwm, y sengl, a ffyrdd newydd o ddosbarthu a ganiataodd i gerddoriaeth fynd yn rhan o’n bywydau beunyddiol. O’r ffansîn i’r bŵth gwrando, o fandiau teyrnged i brofiadau rhithwir, gwahoddir cynulleidfaoedd i archwilio’n treftadaeth gerddorol amrywiol.

Wythnos Agoriadol Ryngwladol Diffusion 2019 yw’r 3-7 Ebrill ac mae rhaglen addysgu ac ymgysylltu eang yr ŵyl yn cynnwys symposiwm ryngwladol, cyhoeddiadau ac adnoddau dysgu dwyieithog, gweithdai dan arweiniad artistiaid, sgyrsiau a digwyddiadau, teithiau tywys ar gyfer grwpiau ysgol a choleg, a gwahanol ddigwyddiadau y gall yr holl deulu gymryd rhan ynddyn nhw.

Gwnaed Gŵyl Diffusion 2019 yn bosibl gan haelioni ein partneriaid cyllido, sef Llywodraeth Cymru, Cyngor Celfyddydau Cymru, a’r Lotri Genedlaethol. Mae’n partneriaid yn y canolfannau yn allweddol i’n gallu i gyflwyno gwaith ledled Caerdydd, yn cynnwys Shift, Canolfan y Mileniwm, y Senedd, Chapter, The Gate, Insole Court, Gwesty’r Angel, ac Oriel y Gweithwyr. Mae’n partneriaid eraill sy’n ein galluogi i gynnig amrywiaeth o weithgareddau ar hyd yr ŵyl yn cynnwys BAFTA Cymru, Gwobr Iris, Experimentica a Grŵp Gwestai Cairn. Diolch hefyd i’r partneriaid cyfryngau, Aesthetica a Buzz Magazine.