Sianel / 30 Ebrill 2019

Cwrdd â’r Artistiaid - PHRAME

Mae PHRAME yn gasgliad anffurfiol a bywiog o bobl sydd am ganolbwyntio ar hyrwyddo a chefnogi gwaith ffotograffwyr benywaidd sy’n dechrau ennill eu plwyf yn ardal De Cymru.

Ffurfiwyd PHRAME yn 2018 ar y cyd gan Celia Rose Jackson a Lisa Edgar, gyda chefnogaeth Lydia Pang. Mae drws ein menter gydweithredol ar agor i bawb, waeth beth yw eu hoedran, rhyw, hil, dosbarth neu gredo. Ry’n ni’n cynnig croeso cynnes, cyfle i rannu arbenigeddau ac egni ac awyrgylch gynhwysol.

Mae artistiaid arddangosfa ‘As We See It’ yn cynnwys:

Lorna Cabble

"Rwy’n ffotograffydd sy’n arbenigo’n bennaf mewn materion cymdeithasol, portreadau a’r theatr. Ar hyn o bryd, rwy’n byw yng Nghaerdydd. Rwyf wedi cael y fraint o weithio gyda chwmnïau a sefydliadau fel y Gwasanaeth Eiriolaeth Ieuenctid Cenedlaethol (NYAS), Lifetime TV, y BBC a BAFTA Cymru.

Mae fy mhrosiect cyfredol, ‘Petals and Pins’ yn canolbwyntio ar ddynion a menywod byd burlesque Caerdydd (Clwb Cabaret Caerdydd) sy’n dathlu agweddau positif tuag at y corff, amrywiaeth a chydraddoldeb."

Kate Mercer & Dai Howell

Mae gwaith Kate Mercer a Dai Howell yn cynnig ymateb beirniadol i’r ffordd y mae gwybodaeth yn cael ei nodi, ei recordio a’i drin trwy gyfrwng iaith a diwylliant cyfoes. Mae gwerth a dirnadaeth yn syniadau creiddiol iddynt wrth gydweithio, yn enwedig y modd mae’r elfennau hynny’n amlygu eu hunain mewn gofodau a rhwng pobl. Wrth ei hymarfer unigol mae Kate yn defnyddio ffotograffiaeth, fideo a collage i archwilio’r ffyrdd mae ffotograffau’n deffro atgofion a dwyn emosiynnau i gof. Mae ymarfer Dai yn cydgysylltu hanes gydag athroniaeth, gan archwilio dirnadaeth hanesyddol mewn cyd-destunnau cyfoes trwy gyfrwng ysgrifennu, ymyriadau a fideo.

Ayesha Khan

Mae Ayesha Khan yn ffotograffydd o Gymru sy’n defnyddio ei hymarfer greadigol i fynd i’r afael â’r camddehongliad cyson o fenywod Mwslimaidd ar draws y cyfryngau Prydeinig. Mae gan Ayesha gefndir hanner Cymreig a hanner Pacistanaidd, ac felly mae hi’n deall y naill ddiwylliant a’r llall yn ogystal â’r gwahaniaethau rhyngddynt. Mae hi hefyd yn Fwslim sy’n dewis gwisgo hijab, ac yn rhinwedd hynny mae wedi gallu nodi rhai o’r elfennau allweddol sy’n esgor ar syniadau ystrydebol ac Islamoffobia wrth iddi dyfu i fyny yng nghymoedd De Cymru. Un o themau canolog ei gwaith ffotograffig yw ei phortread o fenywod Mwslimaidd cryf – yn ymateb uniongyrchol i’r ystrydebau Mwslimaidd negyddol a welir yn nelweddau pob math o gyfryngau.

Tess Seymour

"Yn y bôn, rwy’n ffotograffydd dogfennol. Fy nod wrth saethu yw dal gwirionedd emosiynol y lleoliad neu’r amgylchedd rwy’n gosod fy hun ynddo. Rwy’n gwneud hynny wrth arsylwi a gwylio’r bobl sydd o fy nghwmpas. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf rwyf wedi bod yn tynnu ffotograffau ar gyfer prosiect o’r enw ‘Women’s Spaces’. Rwy’n dewis tynnu lluniau o’r menywod sy’n fy ysbrydoli yn amgylchiadau eu bywydau personol. Mae fy empathi a’m natur sylwgar yn fy ngalluogi i adrodd stori’r person gyda pharch a gonestrwydd."

Faye Lavery-Griffiths

Mae Faye Lavery-Griffiths yn ffotograffydd sy’n byw a gweithio yn Ne Cymru. Mae’n defnyddio cyfryngau ffotograffiaeth analog a phrosesau amgen wrth greu ei gwaith. Ar hyn o bryd, mae’n gweithio gyda hen stoc Polaroid 669 a Fujifilm fp 100 sydd wedi dod i ben er mwyn dal egni a symudiad cerddoriaeth byw a’i ddylanwad cynyddol ar ddiwylliant gweledol. Mae hon yn broses o adeiladau delweddau drwy ddinoethiadau lluosog sy’n creu golygfeydd deinamig ac ymholgar.

Daw’r gweithiau a gyflwynir gan Faye fel rhan o arddangosfa ‘As We See It’ o brosiect parhaus mwy; mae’r hanner dwsin yma o ffotograffau’n archwilio symudiad a sain jazz byw a chyffro a diwylliant arwyddion neon.

Tracey Paddison

Mae gwaith eang Tracey yn bwrw golau ar faterion cymdeithasol Menywod, cysyniadau am hunaniaeth a gwleidyddiaeth Cymru. Bu Tracey’n gweithio i gwmnïau animeiddio ac effeithiau gweledol ledled y byd am nifer o flynyddoedd. Ond yn y pendraw, fe gamodd allan o’r swyddfa er mwyn ymgysylltu â’r byd ffisegol trwy gyfrwng ffotograffiaeth. Mynychodd gwrs mewn ffotograffiaeth yn yr Australian Centre of Photography yn Sydney, ac yn ystod yr un flwyddyn cyhoeddwyd lluniau ganddi mewn papurau newyddion a chylchgronnau yn Awstralia. Yn 2013 fe ddychwelodd adre i Gaerdydd a dechreuodd weithio’n llawrydd gyda nifer o asiantaethau lluniau. Bellach mae’n ffotograffydd gyda Media Wales ac mae’i gwaith yn ymddangos yn gyson mewn papurau lleol a chenedlaethol yn ogystal â chylchgronnau rhyngwladol fel Rolling Stone. Astudiodd ffotograffiaeth ddogfennol yn Ffotogallery ac o ganlyniad derbyniodd ei phrosiect yn dilyn taith person anneuaidd trwy broses ailbennu rhywedd ganmoliaeth uchel gan Ymddiriedolaeth Rebecca Vassie yn 2016.

Mae Tracey wedi ymroi i weithio ar straeon ffurf-hir yn ymwneud â materion cymdeithasol Menywod. Mae ei gwaith diweddar yn cynnwys prosiect dogfennol dros flwyddyn yn dilyn menywod sydd wedi camu’r tu hwnt i galedu eu bywydau gan ymgymryd â gwaith sydd nid yn unig yn sicrhau cynhaliaeth i’w teuluoedd ond i’r bobl sy’n byw yn eu cymunedau.

Savanna Dumelow

Mae Savanna Dumelow yn ffotograffydd masnachol ac artistig sy’n byw a gweithio yn Ne Cymru. Mae ei gwaith yn canolbwyntio ar ffeministiaeth a rôl menywod yn y cyfryngau, yn arbennig ar ffilm a theledu. Yn aml, mae ei hangerdd am y ffurf fenywaidd a’i dyhead i ddangos a chynrychioli menywod cryf ac annibynnol yn amlygu eu hunain yn ei gwaith. Gwaith arbrofol yw ei phrosiect diweddaraf – yn archwilio’r gwahaniaethau enfawr rhwng sut mae’r cyfryngau yn portreadu emosiynnau benywaidd ar y naill law, a realiti bywyd dyddiol menywod yn y byd go iawn ar y llall. Gyda’r gwaith yma mae hi’n camu i dir creadigol newydd gan ildio’r rheolaeth gadarn sydd ganddi fel arfer. Bydd hwn yn waith sy’n esblygu’n gyson.

Faye Chamberlain

Mae Faye Chamberlain yn ffotograffydd sy’n byw a gweithio yng Nghaerdydd. Mae hi’n gweithio ar draws rhychwant eang o arddulliau – o gelf gain i ddogfenaeth. Mae ei gwaith yn uniongyrchol, yn glir a llachar ond hefyd wedi’i drwytho â dyneiddiaeth ddwys. Mae pobl yn ganolog i’w delweddau wrth iddi archwilio’r berthynas rhyngddynt a’u perthynas gyda’u hamgylcheddau. Mae ei ffotograffau dogfennol cymdeithasol yn cyflwyno astudiaeth graff o fanylion ymddygiad pobl. Wrth ddal gweithredoedd bach diymwybod, mae’r lluniau yma o fanion sy’n ymddangos yn hollol ddi-nod yn bwrw golau treiddgar ar weadau cywrain cymdeithas. Mae hi’n defnyddio’r un theori, arddull a chrefft wrth ei gweithiau bywyd llonydd a’i thirluniau. Mae Faye yn defnyddio dulliau ffotograffiaeth traddodiadol a dulliau digidol ac mae wedi llwyddo i weithio ar brosiectau personol yn ogystal â chomisiynnau. Mae ei gwaith wedi cael ei gynnwys mewn nifer o arddangosfeydd a gosodweithiau.

Megan Winstone

Daw Megan Winstone o gymoedd De Cymru ac mae hi’n defnyddio ei chefndir a’i gwreiddiau i wthio ffiniau cymdeithasol gyda’i ffotograffau dogfennol a’i ffotograffiaeth olygyddol heriol. Mae Megan hefyd yn ymgyrchydd dros hawliau menywod a chydraddoldeb, ac fe adlewyrchir hynny yn themau ei gwaith. Yn rhinwedd hyn, cafodd ei chynnwys ar restr LensCulture o 35 o ffotograffwyr i gadw llygad arnynt fel rhan o ddathliadau Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yn 2018. Mae hi’n wneuthurwr zines brwd ac mae ei gwaith dogfennol hir-dymor, ‘Fenyw’, sy’n archwilio gwahanol gynrychiolaethau o fenywdod, ar gael yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Sarah Hayton

Mae gwaith Sarah Hayton yn ffrwyth prosiect preswyl o gwmpas dau safle bws Intercity yng Nghaerdydd dros gyfnod o wythnos yn Rhagfyr 2017. “Fe wnes i ddefnyddio cyfarpar a oedd yn hollol amlwg i bawb, camera 5x4” a golau; ac fe fues i’n sgwrsio gyda rhai o’r bobl a oedd yn aros i deithio a chreu portreadau ohonyn nhw. Ro’n i’n dal i weithio ar fy nhechneg ar y pryd – dinoethiad 8 eiliad ar bapur ffotograffig – felly ro’dd y canlyniadau’n gymysg, ond fe arhosodd pob un o’r bobl hynny a’u straeon yn fyw yn fy nghof.”

Mae ymarfer Sarah yn defnyddio stori a ffotograffiaeth i archwilio syniadau am yr unigolyn, y byrhoedlog a’r beunyddiol: “Rwy’n dwlu ar fannau sydd yn unlle, fel hybiau teithio: Maent yn theatrau a gynlluniwyd i’n prosesu ni – ry’n ni’n mynd yno’n unswydd i deithio i rywle arall, am fod hynny’n angenrheidiol neu er mwyn gwireddu breuddwydion neu fodloni rhyw ysfa...ac yno, rydyn ni fel pe baem ar ein mwyaf dynol”.

Molly Caenwyn

Mae Molly Caenwyn yn ffotograffydd a hanesydd ffotograffiaeth sydd â diddordeb byw mewn materoliaeth ffotograffig yn ogystal â’r profiad ffenomenolegol a ysgogir gan ffotograffiaeth. Mae Molly’n defnyddio prosesau ffotograffig anelog ac amgen wrth ei gwaith. Mae fframweithiau damcaniaethol sy’n cynnwys Erotigiaeth, Ffeministiaeth a dehongliad Julia Kristeva o Ffieidd-dod yn gyd-destunau pwysig i’w gweithiau artistig a’i gwaith ymchwil hanesyddol.

Jane Nesbitt

Ganed Jane Nesbitt yng Nghas-gwent yn Ne Cymru yn 1965. Fe ddatblygodd ei diddordeb mewn ffotograffiaeth pan roedd yn hŷn. Ers ennill Gradd Baglor mewn Ffotograffiaeth yn 2018, mae Jane wedi ymroi mwy fyth i’w hymarfer ffotograffig. Yn ogystal â darlunio’r tirluniau y mae’n eu gweld ar ei theithiau cerdded, mae Jane hefyd yn defnyddio ei ffotograffiaeth i fynegi effaith seicolegol trais yn y cartref.