Sianel / 4 Ebrill 2019

A Woman's Work - Meet the Speakers

Kayleigh McLeod

Mae Kayleigh Mcleod yn arwain ar adrodd a rhannu straeon y Clwstwr, rhaglen Ymchwil a Datblygu i hyrwyddo arloesedd yn y diwydiannau creadigol, sy’n arbenigo ar greu cynnwys digidol ar draws pob math o blatfformau. Ers 2016, bu’n arwain ar ymgysylltu a chyfathrebu i Caerdydd Creadigol, rhwydwaith ar gyfer cymuned greadigol y brifddinas ac mae’n ymroddedig i ledu’r gair am holl rychwant gwaith y gymuned greadigol. Newyddiadurwr yw Kayleigh wrth ei gwaith bob dydd; fe dreuliodd y rhan fwyaf o’i gyrfa’n gweithio ar-lein yn STV, yn gohebu ar bopeth o newyddion lleol i’r byd adloniant.

Cherie Federico

Cherie yw Golygydd Aesthetica Magazine a chyfarwyddwr yr wyl ffilmiau Aesthetica Short Film Festival, a gydnabyddir gan wobrau BAFTA. Yn wreiddiol o Efrog Newydd, symudodd Cherie i'r Deyrnas Gyfunol yn 2002 i wneud gradd Feistr, a sefydlodd hi Aesthetica'n fuan wedyn, sydd wedi datblygu mewn i frand rhyngwladol sy'n cael ei ddarllen mewn dros 20 o wledydd.


Whack 'n' Bite

Menter gydweithredol yw Whack ‘n’ Bite. Cafodd ei sefydlu’n ddiweddar yn y Ffindir gan y curadur, Tuula Alajoki, a’r artist gweledol/dylunydd, Johanna Havimäki. Mae Whack n Bite fel band gweledol sy’n cyflwyno a chydweithio’n gyson gyda phob math o artistiaid a chydweithwyr ar brosiectau sy’n adlewyrchu holl rychwant mynegiant ffotograffig.

Hannah Raybould

Mae Hannah wedi gweithio yn y cyfryngau creadigol a hyfforddiant / addysg yng Nghymru ers dros 20 mlynedd a hi yw cyfarwyddwraig presennol BAFTA Cymru, yn arwain eu holl ddigwyddiadau a gwobrau. Mae hi hefyd wedi rheoli portffolio o raglenni hyfforddi a ariennir gan yr Undeb Ewropeaidd, y Cyngor Prydeinig a BFI yn ogystal â phrosiectau sy'n cysylltu academyddion ac ymarferwyr creadigol ar gyfer Cyfnewid Gwybodaeth.

Janire Najera

Mae Janire Nájera yn ffotograffydd dogfennol ac artist aml-gyfrwng sy’n byw a gweithio yng Nghaerdydd. Mae wedi bod yn artist preswyl mewn amryw o wledydd ac wedi dangos ei gwaith yn rhyngwladol. Mae prosiectau ganddi wedi derbyn sylw yn The New York Times, The Washington Post, The Guardian ac ar Newyddion CNN.
Mae Janire hefyd yn rhan o 4Pi Productions sy’n cyflwyno ‘Juniper’ yn Diffusion 2019 – digwyddiad hynod sy’n cyfuno sgôr weledol 360° ymdrochol gyda pherfformiad byw o drydydd albwm Slowly Rolling Camera.

Laura Drane

Mae Laura Drane yn gynhyrchydd ym maes y celfyddydau a diwylliant a hefyd yn ymgynghorydd a hwylusydd. Mae’n byw yng Nghaerdydd ac yn gweithio ledled y Deyrnas Gyfunol. Sefydlodd ei busnes ei hun yn 2002 ac mae wedi gweithio ar amrywiaeth eang o brosiectau ar draws gwahanol gyfryngau a sectorau’r celfyddydau gan gynnwys datblygu a chyflawni rhaglenni, dichonoldeb, ymchwil, ymgynghori a gwerthuso.

Melin Edomwonyi

Melin Edomwoni yw sylfaenydd Me design ac yn rhedeg boreau creadigol. Mae ganddi dros 12 mlynedd o brofiad ym maes dylunio graffig a dylunio ar gyfer y we a chyfryngau cymdeithasol. Mae wedi gweithio yn Llundain ac yn rhyngwladol gydag asiantaethau yn Istanbwl yn Nhwrci. Bellach, gan fod cynifer o’i chleientiaid yn gweithio yma yng Nghaerdydd dyma ble mae cartref Me Design hefyd.

Celia Jackson

Mae Celia Jackson yn un o gyd-sylfaenwyr PHRAME. Mae wedi treulio hanner ei bywyd yn Ne Cymru wrth ei gwaith a’i hymarfer gyda chyfryngau lens a defnydd o destun yn ei ystyr ehangaf bosib. Mae wedi dangos ei gwaith yn genedlaethol ac yn rhyngwladol ac wedi cyhoeddi nifer fawr o draethodau ar gyfer catalogau ac adolygiadau. Mae’n uwch academydd gwobrwyedig sy’n treulio llawer o’u hegni a’i hamser yn gweithio gyda phobl o gefndiroedd anrhaddodiadol neu rai sy’n byw a gweithio dan amodau anodd.

Pria Borg-Marks

Mae Pria wedi bod yn gweithio yn y sector ddiwylliannol yng Nghymru ers dros 15 mlynedd – fel artist gweledol a darlunydd llawrydd, dylunydd graffig ac arddangosydd technegau ystafell dywyll. Yn fwyaf diweddar cafodd ei phenodi’n un o reolwyr-gyfarwyddwyr Shift Caerdydd, hyb creadigol newydd sy’n cynnig mannau gweithio hyblyg i artistiaid i ddatblygu gweithiau ar raddfa fawr ar draws ystod o ffurfiau celf, yn ogystal â chyfleoedd i gydweithio ac arddangos.