Digwyddiad / 6 Ebrill – 7 Maw 2019

Liminality

4Pi Productions

Mae’n bleser gan Ffotogallery gyflwyno premiére Liminality fel rhan o Diffusion 2019.

Gwaith dawns ymdrochol cyfoes byw yw Liminality a ddatblygwyd fel rhan o Flwyddyn Diwylliant India y DU. Fe’i gwnaethpwyd yn bosibl drwy gydweithrediad â’r Society for Arts and Technology ym Montréal (SAT).

Mae dawnswyr yn symud o dirluniau diwydiannol i amgylcheddau arfordirol yng Nghymru ac India, gan danlinellu’r tebygrwydd rhwng y ddwy wlad hyn, a’u perthynas gyfnewidiol.

Gan gyfuno dawns gyfoes, cerddoriaeth a ffilmio 360º arloesol mewn gwrthdrawiad o ddiwylliant a thechnoleg, mae Liminality yn cynnig cip ar gylchred parhaus y newid a thrawsnewid o’n hamgylch.

Mae’r prosiect hwn yn gyd-gynhyrchiad rhwng 4Pi Productions a’r Society of Arts and Technology, ac fe’i cefnogir gan Coreo Cymru, Danceworx, British Council Wales, a Chelfyddydau Rhyngwladol Cymru.

Proffil Artist

Portread o 4Pi Productions

4Pi Productions

Mae 4Pi, stiwdio greadigol sydd wedi ennill clod rhyngwladol, yn plethu technoleg flaengar a chyffrous gydag arddulliau storïol traws-gyfrwng i gynhyrchu profiadau trwythol arbennig sy’n hudo cynulleidfaoedd i fydoedd a phrofiadau newydd. Mae 4Pi yn datblygu eu prosiectau a’u platfformau unigryw eu hunain, gan gynnwys y Dôm Dawns sydd wedi ymweld â thros 30 o ddinasoedd ledled y byd. Mae Matt Wright a Janire Nájera wedi bod yn cydweithio ers 2006, yn creu prosiectau celf rhyngwladol aml-elfen o’u gweithdy yma yng Nghymru. Cafodd 4Pi ei sefydlu yn 2012 – yn gyfrwng i gyfuno ymarfer greadigol y ddau ohonynt ac archwilio’r ffiniau rhwng celfyddyd, dylunio a thechnoleg. Ymunodd Raquel Garcia yn 2017, gan ychwanegu arbenigedd mewn dylunio rhyngweithiol i’r tîm craidd.