Digwyddiad / 18 Ebrill 2019

Altered Ego - Opening & Presentation Event

Dyw Lord Spittledash ddim yn hapus am hyn, ond ar ôl lot o rwgnach mae wedi agor gatiau ei blasty yng Nghwrt Insole i garfan o freuddwydwyr, swagrwyr, enwogion ac ysbïwyr. Trwy gyfrwng ffotograffiaeth, ffilm, lluniau, cerfluniaeth, sain a chelf fyw, mae ‘Altered Ego’ yn archwilio syniadau am bwy ydym ni mewn gwirionedd, a sut yr ydym yn cyflwyno hynny i’r byd. Mae’n archwilio ein alter-ego; ein syniadau am hunangyflwyniad, y ffyrdd gwahanol sydd gyda ni o gyflwyno’n hunain mewn gwahanol gyd-destunau, a’r elfennau hynny o ymddygiad dynol a ystyrir yn ‘normal’ sy’n cael eu dwysáu gan anabledd neu amgylchiadau.

Seiliwyd y prosiect ar y ddamcaniaeth ein bod ni i gyd yn creu ymdeimlad o’n hunan a phwy ydym ni, a’n bod ni’n ail-greu ac addasu hynny mewn gwahanol sefyllfaoedd. Yn aml dyw’r alter egos yma ddim yn rhy bell o’n gwir bersonoliaethau; ond maen nhw’n rhoi hyder i ni archwilio’r rhannau hynny ohonom ein hunain na fyddem ni’n gallu eu harchwilio fel arall. Maen nhw’n creu gofod seicolegol arbennig lle gallwn gyflwyno fersiwn ‘wahanol i’r arfer’ ohonom ein hunain.

Mae ‘Altered Ego’ yn ceisio meithrin model arbrofol i fynd i’r afael â materion sy’n greiddiol i’r profiad o fod yn anabl ond sydd hefyd yn berthnasol i gymdeithas drwyddi draw; y gwahanol ffyrdd sydd gennym o addasu ein hunain er mwyn bodloni agweddau a chanfyddiadau rhagamodol. Trwy gyfres o arbrofion creadigol rydyn ni’n archwilio sut mae pob un ohonom yn defnyddio graddau amrywiol o wirionedd a chywirdeb, a hyd yn oed celwydd a thwyll, wrth gyflwyno fersiynau gwahanol ohonom ni’n hunain.

Cyflwynir ‘Altered Ego’ gan grŵp o artistiaid, actorion, sgwenwyr a cherddorion anabl a heb anabledd: Sara Christova, William Craig, Paul Leyland, Zosia Krasnowolska, Rachael Smith, Rosie Swan, Kate Woodward a David Sinden. Maen nhw wedi cael popeth sydd ei angen i greu personolaethau newydd; ac felly byddwn yn cwrdd ag: Adam Lane, eilyn pop a seren ddisglair sydd wedi diflannu o lygaid y cyhoedd; Lord Spittleash, Barwn, playboy a swagrwr rhyngwladol, ysbïwr ac aristocrat...a’i was ffyddlon, Wallace; Lily-May, cantores ryngwladol gythryblus; Slim Monroe, bugail gwartheg sydd wedi gweld dyddiau gwell; Lulu Goodridge, un o sêr pop mwyaf gwefreiddiol yr 80au (a nith Lord Spittledash); Blair Maddox - yn ei arddegau ac yn llawn problemau (ac yn benderfynol o greu problemau i bawb arall); a Banks, prif arddwr Lord Spittledash, sy’n hollol sicr fod y byd ar fin chwalu’n yfflon….

Rydyn ni’n cyflwyno ‘Altered Ego’ fel rhan o raglen gŵyl Diffusion 2019 yng Nghwrt Insole yn Llandaf rhwng 13 – 28 Ebrill, gyda fforwm drafod a drefnir mewn cydweithrediad â Chelfyddydau Anabledd Cymru, Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd a Chanolfan Ysgrifennu Creadigol Prifysgol Bath Spa. Hefyd bydd arddangosfa gyhoeddus yn ystafelloedd plasty Cwrt Insole a’r gerddi o’i gwmpas – gyda gweithiau cyfryngau cymysg, gweithiau’n seiliedig ar ddelwedd a gweithiau unigol a safle-benodol yn cyflwyno cymeriadau ‘Altered Ego’. Yn rhagflas i’r arddangosfa ym mhrif adeilad y plasty, bydd arddangosfa o weithiau gan artistiaid ‘Altered Ego’ yn oriel a chaffi’r Cwt Potiau yng Nghwrt Insole rhwng 13 – 18 Ebrill.

Bydd agoriad a noson gyflwyno ‘Altered Ego’ yn archwilio’r pynciau a sbardunodd y prosiect gyda fforwm drafod yng nghwmni’r artistiaid sy’n arddangos a siaradwyr gwadd. Fe fyddan nhw’n archwilio’r broses o greu hunaniaeth a’i effaith ar eu hymarfer greadigol, ac yn trafod materion ehangach o gylch anabledd, hunaniaeth a chreadigrwydd.

Ariennir ‘Altered Ego’ gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Diffusion. Mae’n ffrwyth partneriaeth rhwng Ffotogallery, Gŵyl Ffotograffiaeth Ryngwladol Diffusion 2019, Oriel MADE, Celfyddydau Anabledd Cymru, Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd, Canolfan Ysgrifennu TRACE ym Mhrifysgol Bath Spa, Cwrt Insole a’r artistiaid.