What Leg Are We On
Good News from the Future
Cyfle gwych i weld cynnyrch cyntaf y cydweithrediad cyffrous rhwng GNFTF a’r cyfansoddwr o Gaerdydd Sam Barnes, sydd wedi cyfansoddi cerddoriaeth i gyfresi teledu yn cynnwys Y Gwyll a Hidden, ac sydd hefyd yn canu’r gitâr fas gyda’r band lleol Boy Azooga.
O’r dechrau un, mae GNFTF wedi ymrwymo i briodi cerddoriaeth a symudiad. Roedd What Comes Next? [2015] – a gyflwynwyd yn Chapter yng Ngŵyl Ddawns Caerdydd ac yng Ngŵyl y Gwanwyn yng Nghanolfan Mileniwm Cymru – yn cynnwys recordiadau a wnaed ar offerynnau cartref. Yn 2016, buom yn cyfranogi yn ‘anti-opera’ arbrofol Tim Parkinson, Time with People yng ngŵyl gerddoriaeth From Now On. Ac yn 2017, buom yn creu Museum Pieces: cyfres o dri choreograffi a luniwyd i gael eu perfformio mewn amgueddfeydd ac orielau – yn cynnwys Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ac Oriel Glynn Vivian, Abertawe – oedd yn atsain ac yn herio’r gweithiau celf o’u cwmpas, ac oedd yn dod gyda thraciau sain gan Sam Barnes a gomisiynwyd yn arbennig ac oedd wedi’u recordio o flaen llaw, yn rhan o’n hymrwymiad i gydweithrediad rhwng y cenedlaethau.
Mae What leg are we on? yn torri tir newydd. Ei nod yw datblygu mathau o symudiad byrfyfyr sydd wedi eu cyfeilio gan, ac sy’n ymateb i, draciau sain cerddorol sensitif ac ysgogol a grewyd yn fyw – mewn deialog arddull rhydd, lle nad oes modd rhagweld beth sy’n digwydd nesaf, mewn un cyfansoddiad artistig…
Cyflwynir What leg are we on? gan grŵp profiadol sydd wedi dod i adnabod, ymddiried a gofalu am eu corfforoldeb ei gilydd ac sy’n gallu creu patrymau doniol, emosiynol, ymdrechgar, personol ac annisgwyl mewn gweithgaredd coreograffi. Mae perfformwyr yn cydgyffwrdd gyda’u cyrff a’u hegni personol mewn cyfuniad ecsentrig ac afieithus o unawdau, deuawdau ac ystumiau, dryswch a symudiadau rhydd mewn grŵp - gan gwrdd, dilyn, cefnogi, efelychu, adlewyrchu a modelu ei gilydd. Mewn arddull sy’n frith â hiwmor byrlymus ac sydd wedi’i yrru gan naws o hwyl…
Ariennir y prosiect gyda grant gan y gronfa Help Musician UK Fusion Fund, gyda chefnogaeth gan Chapter.