Juniper
Slowly Rolling Camera, 4Pi Productions
Yn dilyn eu ffilm fulldome gwobrwyedig, Liminality, mae Matt Wright a Janire Nájera, sy’n gweithio yng Nghaerdydd, wedi creu cywaith creadigol i drwytho cynulleidfaoedd yng ngherddoriaeth Slowly Rolling Camera. Mae Juniper, a gomisiynwyd gan Ffotogallery i’w ddangos am y tro cyntaf yng ngŵyl Diffusion 2019, yn archwilio sut y mae sain a delwedd symudol yn cydblethu mewn perfformiad byw. Fel rhan o’r sioe unigryw yma bydd Slowly Rolling Camera yn perfformio eu trydydd albwm, Juniper, o’i dechrau i’w diwedd gyda sgôr weledol hynod a grewyd gan 4Pi. Bydd grŵfs jazz eang, trip-hop a seinluniau sinematig ‘Juniper’ yn anwesu aelodau’r gynulleidfa wrth iddynt gael eu cludo i amgylchfydoedd diffaith a phrysur yn y DU, Norwy a’r Ffindir.
Juniper yw trydydd albwm Slowly Rolling Camera o Gaerdydd – casgliad o weithiau hyderus a gogoneddus sydd wedi ennill clod beirniadol. Dan adain Dave Stapleton o label Edition, y cynhyrchydd Deri Roberts a’r drymiwr Elliot Bennett, mae ‘Juniper’ yn gyfuniad o grŵfs jazz eang a seinluniau sinematig cyfoethog sy’n dynodi cyfnod newydd yn hanes y grŵp a sefydlu gwreiddiau offerynnol newydd wrth dynnu tîm o offerynwyr deinamig at ei gilydd – Stuart McCallum (cyn gitarydd Cinematic Orchestra), y basydd Aidan Thorne a’r chwaraewr sacsoffon o wlad Belg, Nicolas Kummert.
Dydd Gwener 5 Ebrill, 1 - 2.30pm
Perfformiad arbennig i ysgolion a cholegau (Oed 12+) - cysylltwch â Catherine McKeag [email protected]
Proffil Artistiaid
4Pi Productions
Mae 4Pi, stiwdio greadigol sydd wedi ennill clod rhyngwladol, yn plethu technoleg flaengar a chyffrous gydag arddulliau storïol traws-gyfrwng i gynhyrchu profiadau trwythol arbennig sy’n hudo cynulleidfaoedd i fydoedd a phrofiadau newydd. Mae 4Pi yn datblygu eu prosiectau a’u platfformau unigryw eu hunain, gan gynnwys y Dôm Dawns sydd wedi ymweld â thros 30 o ddinasoedd ledled y byd. Mae Matt Wright a Janire Nájera wedi bod yn cydweithio ers 2006, yn creu prosiectau celf rhyngwladol aml-elfen o’u gweithdy yma yng Nghymru. Cafodd 4Pi ei sefydlu yn 2012 – yn gyfrwng i gyfuno ymarfer greadigol y ddau ohonynt ac archwilio’r ffiniau rhwng celfyddyd, dylunio a thechnoleg. Ymunodd Raquel Garcia yn 2017, gan ychwanegu arbenigedd mewn dylunio rhyngweithiol i’r tîm craidd.