Digwyddiad / 5 Ebrill 2019

Visual Piano gyda R. Seiliog

Kurt Laurenz Theinert

Visual Piano gyda R. Seiliog
© Jörg Kallinich

Offeryn cerdd sy’n galluogi creu delweddau symudol mewn mannau penodol yw’r ‘Piano Gweledol’. Mae’n offeryn unigryw; yn ffrwyth dychymyg a gwaith y ffotograffydd a’r artist gosodweithiau golau, Kurt Laurenz Theinert, ar y cyd â’r cynllunwyr meddalwedd Roland Blach a Philip Rahlenbeck.

Wrth ddefnyddio allweddell MIDI mae modd cynhyrchu patrymau graffig amrywiol y gellir eu taflunio’n ddigidol ar sgrin neu sgriniau. Nid clipiau wedi’u recordio ymlaen llaw sy’n cynhyrchu’r ‘lluniau golau’ deinamig yma (fel sy’n digwydd gyda meddalwedd a chaledwedd VJ). Yn hytrach, mae pob eiliad o’r perfformiad yn cael ei chwarae a’i drawsgyweirio’n fyw, yn y fan a’r lle, trwy gyfrwng yr allweddell a’r pedalau.

Yn wreiddiol, byddai Theinert yn taflunio ei ‘luniau golau’ yn syth ar sgrîn. Ond wrth ehangu’r taflunio i 360° mae bellach yn gallu agor ac ehangu profiad gweledol y gynulleidfa i dri dimensiwn. Mae dwysau’r profiad gweledol fel hyn yn creu ias aruthrol: Mae’r ymylon tywyll sy’n diffinio’r man arddangos yn diflannu ac yn eu lle ceir strwythurau mawr a symudol o olau. Caiff y gwyliwr ei drwytho mewn pydysawd newydd sbon o linellau symudol a meysydd mawr o liw. Roedd y tafluniad ar un o’r sgriniau’n creu atseiniau cryf o baentiadau adeileddol a symudiadau artistig modernaidd eraill tra fo’r tafluniadau 360° yn cyffroi pob math o gyffelybiaethau pensaernïol a thechnegol.

Maent yn deffro côf am efelychiadau 3D cyfrifiadurol a phelydrau laser. Mae cyfansoddiad cymesur y tafluniadau’n creu siapau crisialog sy’n dwyn egwyddorion dylunio Art-Deco neu gynlluniau iwtopaidd pensaerniaeth fynegiadol i gôf. Ar yr un pryd, mae’r lliwiau seicadelig yn atseinio estheteg y Chwedegau.

Yma, mae ffurf a chynnwys yn un. Er bod perfformiadau’r ‘piano gweledol’ yn archwilio ymarfer artistig broffesiynol gyfoes trwy gyfrwng haniaethol a byrhoedlog y golau, maent hefyd yn perthyn yn agos i fyd a genre adloniant ‘go iawn’.

Proffil Artist

Portread o Kurt Laurenz  Theinert

Kurt Laurenz Theinert

Mae Kurt Laurenz Theinert yn ffotograffydd ac artist sy’n perfformio’n fyw gyda golau a chyfryngau. Mae wedi arddangos a pherfformio gyda’r ‘piano gweledol’ ledled y byd – yn Sao Paulo, Llundain, Sydney, Berlin, Efrog Newydd a Singapore. Yn ei weithiau, mae’n canolbwyntio ar brofiadau gweledol sy’n rhydd o unrhyw berthynas â delweddau, lluniau neu ffurfiau diriaethol. Yn hytrach, mae’n defnyddio ei ymarfer artistig i ymestyn a cheisio cyrraedd estheteg haniaethol a lleihaol. Yn ei dro, ynghyd â’i ddyhead i ddifateroli, mae hyn wedi ei arwain oddi wrth ffotograffiaeth i ganolbwyntio ar ddefnyddio golau fel cyfrwng ei ymarfer.