Altered Ego
David Sinden, Kate Woodward
Prosiect celf aml-ddisgyblaeth yw Altered Ego sy’n archwilio syniadau am bwy ydym ni mewn gwirionedd, a sut yr ydym yn cyflwyno hynny i’r byd. Mae’n archwilio ein alter-ego; ein syniadau am hunan-gyflwyniad, y gwahanol fyrdd sydd gennym o gyflwyno’n hunain mewn gwahanol gyd-destunau, a’r elfennau hynny o ymddygiad dynol a ystyrir yn ‘normal’ sy’n cael eu dwysáu gan anabledd.
Sail y prosiect yw’r syniad ein bod ni i gyd yn creu ymdeimlad o’n hunan a phwy ydym ni, a’n bod ni’n ail-greu ac addasu hynny mewn gwahanol sefyllfaoedd. Trwy gyfres o ymyrraethau artistig mae’r prosiect yn archwilio’r ffyrdd yr ydym yn cyflwyno fersiynau gwahanol ohonom ni’n hunain gyda graddau amrywiol o wirionedd a chywirdeb, ac weithiau, celwydd a thwyll.
Mae Altered Ego yn ceisio meithrin model arbrofol i fynd i’r afael â materion sy’n greiddiol i’r profiad o fod yn anabl, ond sydd hefyd yn berthnasol i gymdeithas drwyddi draw: y gwahanol ffyrdd yr ydym yn addasu ein hunain er mwyn bodloni agweddau a chanfyddiadau rhag amodol; a dulliau creadigol i rymuso unigolion fel y gallant herio allgáu cymdeithasol ac ynysigrwydd.
Aelodau Altered Ego yw Sara Christova, William Craig, Paul Leyland, Zosia Krasnowolska, Rachael Smith, a Rosie Swan. Mae’r prosiect wedi bod yn gyfrwng i’r grŵp yma o artistiaid anabl ac artistiaid heb anabledd, actorion, sgwenwyr a cherddorion i ail-greu eu hunain. Ry’n ni’n eu harfogi i greu personolaethau newydd, sy’n amrywio o...Adam Lane, eilyn pop a seren ddisglair sydd wedi diflannu o lygaid y cyhoedd, i...Arglwyddn Spittleash, Barwn, playboy a swagrwr rhyngwladol, ysbïwr ac aristocrat, i...Lily-May, cantores ryngwladol gythryblus. Wrth ddefnyddio ffotograffiaeth, fideo, sain, paentiadau a lluniau, maen nhw’n dogfennu bywydau’r tri alter ego yma wrth iddynt ymgynnull ym Maenordy Ashbrittle, hen gartref teuluol Arglwydd Spittleash.
Mae Altered Ego yn derbyn nawdd ariannol gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Diffusion 2019. Mae’n bartneriaeth rhwng Ffotogallery, Gŵyl Ffotograffiaeth Ryngwladol Diffusion, Oriel MADE, Celfyddydau Anabledd Cymru, Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd, Canolfan Ysgrifennu TRACE ym Mhrifysgol Bath Spa, Cwrt Insole a’r artistiaid.
Proffil Artistiaid
David Sinden
Mae David Sinden yn ffotograffydd annibynnol ac yn gynhyrchydd celf. Bu’n gyfrifol am sefydlu a rhedeg Zone Gallery, prif oriel ffotograffiaeth Newcastle upon Tyne yn yr 1990au.
Yna bu’n gweithio yn ARTEC, Lux a’r Lighthouse Media Centre yn Llundain a Brighton - yn datblygu prosiectau cyfryngau digidol arbrofol a phrosiectau ar-lein. Yn 2001, fe oroesodd waedlif ar ei ymennydd. Dangoswyd ei brosiect ffotograffig, ‘After? Portraits of Brain Injury Survivors’ yn adeilad y Senedd. Wedi hynny fe greodd ‘PhotoRega’ – prosiect y mae e’n rhedeg ar y cyd gyda Kate Woodward ac sydd wedi ei arddangos ym Mhrifysgol Caerdydd, 76m2, Oriel Hanbury Road ac Oriel HeARTH. Ar hyn o bryd mae’n datblygu ‘The Cosplay Project’, cyfres newydd o bortreadau o selogion byd cosplay ar gyfer arddangosfa a chyfrol yn 2020.
Kate Woodward
Mae Kate Woodward wedi bod yn datblygu ei hymarfer fel artist aml-ddisgyblaeth a cherddor ers graddio o Ysgol Gelf Glasgow, Ffotograffiaeth Celf Gain, yn 2015. Mae ei hymarfer yn cynnwys defnyddio ffotograffiaeth, fideo, cerflunwaith, darluniad, barddoniaeth a sain. Ei diddordeb creiddiol yw archwilio a delweddu’r effaith y mae pobl yn ei gael ar yr amgylchedd ac ar ei gilydd. Bu Kate yn artist preswyl yn Shift yng Nghaerdydd yn Ionawr 2019, ac yn ddiweddar mae wedi dangos gweithiau yn Cardiff Contemporaries, Gwnaed yn y Rhâth a TactileBOSCH.
Mae Kate a David wedi cydweithio ar ddatblygu a chyflwyno rhychwant o brosiectau a gweithdai; eu nod penodol yw sicrhau bod celf yn gynhwysol. Mewn cydweithrediad gyda Chelfyddydau Anabledd Cymru a gyda help y Loteri Genedlaethol a Chyngor Celfyddydau Cymru, maen nhw wedi gweithio gyda chleifion ag anafiadau i’w hymennydd, elusennau anabledd fel Vision 21 a chymunedau ar draws Caerdydd a Chymoedd De Cymru.