Let the World Adore You
Lisa Brunzell
Yn sgil ennill cystadleuaeth Eurovision yn Brighton yn 1974, daeth ABBA yn symbol o Sweden ledled Ewrop. Yn ifanc, yn benfelyn ac ychydig yn swil...roedden nhw’n sêr yn syth.
Cafodd Lisa Brunzell ei geni a’i magu yn Sweden. Ond pan ddaeth i fyw i’r Deyrnas Unedig, fe ffeindiodd bod olion y llwyddiant pop Swedaidd yna’n dal i’w gweld yma, yn cael eu trosi i sefyllfa a diwylliant newydd gan yr holl fandiau efelychu a ysbrydolwyd gan y band pop chwedlonol.
Mae’r gweithiau yma gan Lisa Brunzell yn archwilio sut y mae artistiaid efelychu yn creu eu dehongliadau eu hunain o’r ABBA gwreiddiol. Mae atseiniau amlwg o aelodau gwreiddiol y band yn y ffotograffau, ond maent hefyd yn dangos gwir bersonoliaethau’r efelychwyr. Mae’r artist efelychu’n hongian rhywle rhwng y perfformio a realiti. Nid nhw eu hunain sydd yn y lluniau yma, ond nid nhw yw’r cymeriadau y maent yn eu cyflwyno chwaith. Rhywsut, mae’r ddwy elfen yn cyd-fodoli.
Proffil Artist
Lisa Brunzell
Ganed Lisa mewn tref fach ar arfordir gorllewin Sweden yn 1986. Astudiodd Anthropoleg Gymdeithasol a Ffotonewyddiaduraeth cyn ennill gradd Meistr mewn Ffotograffiaeth Ddogfennol ym Mhrifysgol De Cymru yn 2017. Cafodd ‘Let the World Adore You’ ei ddewis gan Olivia Arthur (Magnum) ac Anna Sparham (Curadur, Museum of London) ar gyfer ‘Graduate Photography Online 2017 Selections’ cylchgrawn ‘Source’.
Yn 2018 dyfarnwyd preswyliad Grez-sur-Loing yn Ffrainc iddi gan Gymdeithas Ffotograffwyr Proffesiynol Sweden a Gefvert. Mae Lisa Brunzell yn byw a gweithio yn Gothenburg.