The song settles inside the body it borrows
Freya Dooley
Mae Freya Dooley yn gweithio gyda phosibiliadau a chyfyngiadau’r llais byw a’r llais wedi’i recordio. Mae ganddi ddiddordeb yn y cyd-brofiad o wrando a’r ymyriadau, y gwyriadau a’r mannau lle gallai pethau ddechrau mynd o’u lle. Mae’r gwaith clyweledol aml-sgrin newydd yma’n cychwyn gyda’r stori fer ‘A Literary Nightmare’, stori gan Mark Twain o 1876, lle mae’r prif gymeriad wedi ei lethu gan gân sy’n troi o amgylch ei feddwl. Yr unig ffordd o gael gwared â’r gân o’i ben yw ei phasio ymlaen i gyfaill sydd, yn ei dro, yn ei phasio ymlaen i’w gynulleidfa. Mae The song settles inside of the body it borrows yn archwilio sut y gall cerddoriaeth effeithio’r meddwl, heintio tasgau pob dydd a difwyno ein profiad o’r byd o’n cwmpas; y ffordd mae’r mewnol a’r allanol yn gallu effeithio a dylanwadu ar ei gilydd.
Proffil Artist
Freya Dooley
Mae Freya Dooley yn artist sydd wedi’i seilio yng Nghaerdydd. Mae hi’n gweithio gydag ysgrifen, y llun symudol, sain a pherfformiad. Mae ei gwaith yn cyfuno cyfeiriadau at y diwylliant llenyddol a phop i greu hanesion ansefydlog, traciau sain a hunangofiannau/bywgraffiadau lled-ffuglennol. Yn aml iawn mae hi’n cyfeirio at neu’n dychwelyd i gyflwr pryderus, ac mae hi’n gweithio i geisio esbonio’r tu mewn wedi’i droi tuag allan. Mae ganddi ddiddordeb yn y llais fel sianel rhwng sain ac iaith, meddwl a chorff. Mae Freya hefyd yn cydweithio â Cinzia Mutigli a chafodd eu perfformiad Being Sharon ei gomisiynu gan Experimentica yn 2018.
Mae’r prosiectau unigol sydd ganddi ar y gweill yn cynnwys ‘Somewhere in the crowd there’s you’, Sioe Aelodau ESP ym Mhrosiectau Eastside 2019, a gefnogir gan Gyngor Celfyddydau Cymru. Derbyniodd Dooley Fwrsariaeth Celfyddydau Gweledol Jerwood yn ddiweddar i ddatblygu ei gwaith gyda’r llais byw a’r llais wedi’i recordio. Mae ei chomisiynau unigol diweddar eraill yn cynnwys ‘Speakable Things’, Oriel Davies, Powys, 2018; a ‘Rhythms and Disturbances’, g39, Caerdydd, 2016.