X-Ray Audio
The Bureau of Lost Culture
Gosodwaith gan The Bureau of Lost Culture yw X-Ray Audio: Stori am ddiwylliant y rhyfel oer, technoleg bootleg, cerddoriaeth fel cyfrwng gwrthsafiad ac ymdrechu dynol. Yn ystod cyfnod y rhyfel oer yn yr Undeb Sofietaidd roedd y Wladwriaeth yn rheoli cerddoriaeth yn llym. Cafodd nifer fawr o ganeuon o’r Gorllewin a Rwsia eu gwahardd am resymau ideolegol. Ond fe lwyddodd cymuned danddaearol fentrus o smyglwyr cerddoriaeth i herio’r drefn ac osgoi rheolau’r sensoriaid. Roedd eu hymateb i’r sefyllfa yn feiddgar ac enbyd o beryglus. Fe adeiladon nhw beiriannau recordio er mwyn creu copiau o’r recordiau a waharddwyd gan ddefnyddio hen ffilmiau x-ray. Yna fe aethon nhw ati i ddosbarthu’r jazz, y roc a rôl a’r gerddoriaeth Rwsiaidd yr oeddent yn dwlu cymaint arno.
Yn ystod y pedair blynedd diwethaf, bu The Bureau of Lost Culture yn ymchwilio i’r hanes yma gan gynhyrchu llyfr, ffilm ddogfen wobrwyedig, digwyddiadau byw ac arddangosfa deithiol sydd wedi ennill clod a sylw rhyngwladol gan ddarlledwyr yn y Deyrnas Unedig, Ffederasiwn Rwsia, Israel, UDA ac Ewrop
Proffil Artist
The Bureau of Lost Culture
Mae The Bureau of Lost Culture wedi ymrwymo i atgyfodi a rhannu straeon y gwrth-ddiwylliant. ‘Ein nod yw ysbrydoli wrth ddwyn ysbryd diwylliannau tanddaearol, y risg a’r herio, yn ôl i’n presennol’.
Aelodau The Bureau of Lost Culture yw:
STEPHEN COATES, cyfansoddwr, sgwennwr a chynhyrchydd cerddoriaeth. Enillodd radd o’r Royal College of Art. Bu’n gyfrifol am sgwennu a chyflwyno’r gyfres ddogfen, ‘Sounds of Propaganda and the Cold War’ - ymchwiliad i’r ffordd y cafodd cerddoriaeth a deunydd clywedol eu defnyddio at ddibenion gwleidyddol yn y Gorllewin ac mewn gwledydd Sofietaidd. Mae ganddo ddiddordeb arbennig yn y rhyngweithiad rhwng cerddoriaeth a diwylliant.
Mae PAUL HEARTFIELD yn un o’r artistiaid portread mwyaf profiadol ac uchel ei barch sy’n gweithio yn Llundain heddiw. Mae wedi gweithio ar hyd a lled y diwydiant cerddoriaeth gan dynnu ffotograffau nifer o fandiau ac artistiaid rhyngwladol dros y ddegawd ddiwethaf. Paul Heartfield yw ffotograffydd portreadau ac archif Tŷ’r Cyffredin a Thŷ’r Arglwyddi yn Westminster. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae wedi tynnu lluniau’r rhan fwyaf o wleidyddion amlycaf Prydain.