Notting Hill Sound Systems
Brian David Stevens
Tynnodd Stevens y set wreiddiol o ffotograffau o systemau sain Notting Hill yn 2004. Fe gododd yn gynnar a cherdded ar hyd y strydoedd cyn i holl ryfeddod dynol y carnifal gyrraedd. Roedd wedi bod yn byw yng Ngorllewin Llundain ers symud i’r brifddinas rhyw 25 mlynedd ynghynt, felly roedd e’n adnabod y strydoedd yn dda – yn rhinwedd ei brofiadau ei hunan a thrwy luniau Roger Mayne, ffotograffydd o’r cyfnod wedi’r rhyfel, a wnaeth argraff arno pan roedd yn blentyn.
Er mwyn ariannu ei addysg brifysgol roedd Stevens yn gweithio gefn llwyfan gyda bandiau yng Ngorllewin Canoldir Lloegr, a dyna le datblygodd ei angerdd am staciau seinyddion. Mae ôl llaw crefftwyr go iawn ar y systemau hardd sydd i’w gweld ar y strydoedd adeg y carnifal. Wrth saethu mor gynnar yn y bore, mae ffotograffau Stevens yn tynnu’r systemau sain allan o’u cyd-destun a’u cyflwyno fel cyfres o ffurfiau cerfluniol unigol. Maen nhw’n gosod eu stamp eu hunain ar y strydoedd gwag. Maen nhw’n estron ac weithiau’n fygythiol, ond wastad yn ddiddorol: Meini hirion modern, cylchoedd cerrig newydd, mannau addoli. Rhain yw cerrig sylfaen y Carnifal.
Cynhaliwyd Carnifal Notting Hill am y tro cyntaf yn 1964 – yn atsain o draddodiadau carnifal y Caribî yn y 19eg ganrif. Yn y blynyddoedd cynnar, roedd yn cynnig llwyfan i fandiau drymiau dur lleol ond erbyn heddiw mae’r carnifal wedi tyfu i gynnwys amrywiaeth eang o gerddoriaeth a diwylliant Affricanaidd-Caribiaidd a nifer o genres eraill sy’n cynrychioli cyfoeth o draddodiadau ac arddulliau cerddorol o’r chwedegau i’r presennol.
Proffil Artist
Brian David Stevens
Ffotograffydd sy’n byw a gweithio yn Llundain yw Brian David Stevens. Mae gweithiau ganddo yn y National Portrait Gallery ac yn Orielau Cenedlaethol yr Alban yn ogystal â nifer o gasgliadau preifat. Mae’n gweithio mewn sawl maes, ond enillodd glod arbennig am ei bortreadau a’i dirluniau. Ymysg y cyfrolau nodedig a gyhoeddwyd ganddo mae ‘Notting Hill Sound Systems’, ‘Brighter Later’ a ‘Beachy Head’. Cyhoeddir ei gyfrol nesaf, ‘Doggerland’, gan Another Place Press ddiwedd y flwyddyn hon. Mae Brian wedi arddangos ei weithiau yn y DU ac yn rhyngwladol. Ei hoff liw yw aur.