Arddangosfa / 1 Ebrill – 30 Ebrill 2019

The Nemesis Machine

Stanza

The Nemesis Machine
© Stanza
The Nemesis Machine
© Stanza
The Nemesis Machine
© Stanza

Mae The Nemesis Machine yn ddarn mawr o waith sy’n cynrychioli cymhlethdodau’r ddinas amser real fel system sy’n newid a symud yn barhaol. Mae’n darlunio bywyd yn y metropolis ar sail data amser real sy’n cael ei ddarlledu o rwydwaith o synwyryddion, gan olygu bod y ddinas replica, o ddarnau electronig, yn adlewyrchu, mewn amser real, yr hyn sy’n digwydd y tu allan. Mae’r Nemesis Machine yn edrych yn debyg i Big Brother drwy lens Rhyngrwyd y Pethau. Mae’n rhoi golwg o’r awyr i’r ymwelwyr o ddinas seibernetig, clwstwr wedi’i animeiddio o ran ei olwg a’i sain o nendyrau a adeiladwyd o silicon a byrddau cylched.

Mae camerâu bychain yn tynnu lluniau o ymwelwyr y ddinas fel eu bod yn dod yn rhan o’r gwaith celf. Mae’r gwaith yma’n mynd y tu hwnt i ryngweithio syml gydag un defnyddiwr, drwy fonitro a bwrw golwg ar ymddygiad, gweithgareddau a gwybodaeth newidiol yn y byd o’n cwmpas gan ddefnyddio dyfeisiau wedi’u rhwydweithio a gwybodaeth wedi’i throsglwyddo’n electronig ar draws y rhyngrwyd. Mae hyn yn cynnwys arsylwi o bell drwy synwyryddion wedi’u creu’n bwrpasol, cyfrifiaduron a chamerâu wedi’u rhwydweithio. Mae’r gwaith celf yn diwygio’r wybodaeth a’r data yma gan greu’r hyn y mae’r artist yn ei alw’n ‘realitioedd paralel’.

Trwy’r Nemesis Machine, mae Stanza yn creu gofod cymdeithasol newydd sy’n bodoli rhwng y rhwydweithiau ar-lein annibynnol lle bydd dinasyddion y dyfodol yn cael eu cyfuno mewn amser real i greu dinasyddion data wedi’u cysylltu â’i gilydd. Daw’r tirlun yn rhywbeth y gellir ei wylio. Mae’r gwaith yma’n gofyn pwy sy’n berchen ar y data ac yn rhagweld y bydd ffiniau rhithwir yn creu systemau newydd o reolaeth.

Derbyniad Agoriadol
Gwener 5 Ebrill, 3 - 4pm

Proffil Artist

Portread o Stanza

Stanza

Mae Stanza yn artist Prydeinig sy’n cael ei gydnabod yn rhyngwladol, sydd wedi bod yn arddangos ei waith ar draws y byd ers 1984. Mae ei waith celf wedi ennill ugain o wobrau celf a dyfarniadau celf rhyngwladol yn cynnwys:- Gwobr Gyntaf Vidalife 6.0 Sbaen, SeNef Grand Prix Korea, Gwobr Gyntaf Videobrasil Brasil, Gwobr Gyntaf Cynet Art Yr Almaen, Gwobr Gyntaf Share Yr Eidal. Mae celf Stanza wedi derbyn gwobr Nesta Dreamtime clodfawr hefyd, Cymrodoriaeth Greadigol Dyniaethau’r Celfyddydau a bwrsariaeth J.A. Clark. Mae ei gomisiynau niferus yn cynnwys gwaith i Oriel Gelf Wolverhampton, Canolfan Gelf Watermans, FACT, a’r Sefydliad Data Agored. Mae ei weithiau celf wedi ymddangos mewn mwy na chant o arddangosfeydd drwy’r byd. Mae’r safleoedd sy’n cymryd rhan wedi cynnwys y Venice Biennale: Victoria Albert Museum: Tate Britain: Mundo Urbano Madrid: Amgueddfa Bruges: TSSK Norwy: Amgueddfa’r Wladwriaeth, Novosibirsk: Biennale Sydney: Museo Tamayo Arte Contemporáneo Mecsico: Canolfan Gelfyddydau Plymouth: ICA Llundain: Sao Paulo Biennale: De Markten Brwsel: Amgueddfa Gludiant Llundain: amgueddfa Ars Nova.