Arddangosfa / 1 Ebrill – 30 Ebrill 2019

Atgyfodi

John Rea

Atgyfodi
© Richard Wood

Yn ein harchifau yr ydym yn cadw a chasglu ein straeon – y personol a’r Cenedlaethol; boed hynny ar bapur, silindr Edison, shellac, feinil, tâp, ffilm neu ddisg galed, y rhain yw gweadau’r côf, hanes, diwylliant, perthyn a’n hunaniaeth.

Mae Atgyfodi yn cyflwyno lleisiau a recordiadau coll o archifau sain Amgueddfa Werin Cymru yn Sain Ffagan trwy gyfrwng gosodweithiau trwythol sy’n cyfuno sain amgylchynol, delweddau a ffeindiwyd a rhai a ffilmiwyd yn benodol. Wrth blethu’r rhain gyda chyfansoddiadau cerddorol cyfoes, caiff y lleisiau a’r recordiadau, a’r hyn y maent yn ei gynrychioli, eu dychwelyd i gôf y genedl. Caiff y caneuon a’r straeon eu gweu fel ‘collage’ gyda recordiadau maes o safleoedd gwreiddiol adeiladau’r amgueddfa a recordiadau gwreiddiol o leisiau pobl a llefydd eiconig neu leisiau o bwysigrwydd symbolaidd fel Tyrone O’Sullivan o Bwll Glo Tower a’r ffermwr Arthur Morris Roberts, a welodd foddi Capel Celyn pan roedd yn fachgen ifanc.

Mae Atgyfodi yn bwrw golau ar gyfoeth traddodiad cerddorol Cymru: Caneuon a straeon sy’n cael eu canu a’u hadrodd gan bobl go iawn. Fe ddylanwadodd gweadau a seiniau’r bywydau yma ar arddull gyfansoddiadol y gerddoriaeth a phroses greu’r prosiect. Wrth galon y cyfan roedd yr alawon traddodiadol, y farddoniaeth a rhythmau soniarus yr iaith lafar.

Wrth greu cyfansoddiadau mewn ymateb i hyn ac yn ffrâm gerddorol o’u cwmpas, mae’r caneuon gwreiddiol yn datblygu’n felodig a harmonig. Mae lle yma hefyd i gerddorion cyfoes sy’n defnyddio offerynnau traddodiadol Cymreig i ail-ddehongli a byrfyfyrio. Wrth hynny, mae’r ‘cylch’ creadigol yn cael ei gwblhau gan gynnig ail-ddehongliad o hen draddodiadau.

Cyflwynir Atgyfodi gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, perfformiadau ar y crwth, y pibgorn, y ffidil a’r chwiban gan Cass Meurig a Patrick Rimes, a lluniau a delweddau a ffilmiwyd yn arbennig gan Huw Talfryn Walters. Bydd y cyfanwaith gorffenedig, gan gynnwys y deunydd ffilm crai a’r recordiadau maes, yn cael cartref parhaol yn archif Amgueddfa Werin Sain Ffagan.

Proffil Artist

Portread o John Rea

John Rea

Graddiodd John Rea gyda M.Mus dan adain y cyfansoddwr Cymreig nodedig, Alun Hoddinott CBE. Bellach mae John yn gweithio’n llawn amser fel cyfansoddwr cerddoriaeth ac arbrofwr gyda gosodweithiau sain, gan gydweithio gyda chyfarwyddwyr, cynhyrchwyr, perfformwyr a chymunedau i archwilio rhychwant eang o themau a syniadau. Mae wedi cyfansoddi cerddoriaeth ar gyfer ffilmiau, dramau dogfen ar gyfer y teledu yn ogystal â derbyn comisiynau ar gyfer perfformiadau llwyfan cyngerdd. Yn ddiweddar, fe gydweithiodd ar brosiect nodedig gyda John Cale o The Velvet Underground, sef y perfformiad cyntaf o ‘Paris 1919’ yng Nghymru.
Mae John wedi ennill dwy wobr BAFTA Cymru - Cerddoriaeth Wreiddiol Orau - am ei sgorau cerddorfaol; ac enillodd ei albwm ‘Art Music & The Minimal’ (KPM/EMI) Wobr STEMRA yn yr Iseldiroedd.