Arddangosfa / 1 Ebrill – 30 Ebrill 2019

Foley Objects

Jonna Kina

Foley Objects
© Jonna Kina
Foley Objects
© Jonna Kina

Mae’r gyfres Foley Objects yn chwarae gêm o synesthesia. Mae’r gwaith yn cynnwys lluniau o wrthrychau gwahanol iawn i’w gilydd. Mae gan y rhain benawdau sy’n cynnig diffiniadau sy’n ymddangos yn hollol ddigyswllt â’r gwrthrychau. Ar ôl astudio’r llun, daw’r syllwr i ddeall bod y geiriau’n cyfeirio at y sain a gynhyrchir gan y gwrthrychau yn y lluniau, eu bod nhw’n rhoi cyfeiriad meddyliol i ni at brofiad sydd heb gysylltiad o gwbl â’r llun.

Mae Kina wedi casglu gwrthrychau gan amrywiol gynllunwyr sain ac artistiaid Foley. Gallwch ystyried y casgliad hwn o luniau’n archif o seiniau, yn ogystal â dawns rhwng y dogfennu a chwarae disynnwyr.

Derbyniad Agoriadol
Gwener 5 Ebrill, 3 - 4pm

Proffil Artist

Portread o Jonna Kina

Jonna Kina

Mae gwaith Jonna Kina (a aned yn 1984) yn sefyll yn aml iawn ar y gyffordd rhwng sain, iaith a llun. Mae hi’n arddangos ei chanfyddiadau gydag iaith sy’n farddonol ond sydd hefyd yn weledol wrthrychol ac mae’n sbarduno ac yn herio’r gwyliwr i feddwl yn feirniadol am yr hyn sy’n cael ei gyflwyno iddynt.
Graddiodd Kina o Academi Gelf y Ffindir ac o Brifysgol Aalto, Ysgol y Celfyddydau, yr adran ffotograffiaeth. Mae hi hefyd wedi astudio yn yr Ysgol Celfyddydau Gweledol, Efrog Newydd ac yn Academi Celf a Dylunio Bezalel, Jerwsalem. Mae gwaith Kina wedi ymddangos yn eang mewn nifer o arddangosfeydd a gwyliau ffilm, megis Amgueddfa Gelf Ffotograffig Tokyo; Amgueddfa Celfyddyd Fodern Espoo EMMA; Galleria delle Carrozze di Palazzo Medici Riccardi, Fflorens; Dunkers Kulturhus, Helsingborg; Musée de l’Elysée, Lausanne; Gŵyl Ffilmiau Rhyngwladol Rotterdam; Sefydliad Hasselblad, Gothenburg; ac yn ddiweddar yn 6ed Biennale Moscow i Gelfyddyd Ifanc, wedi’i guradu gan Lucrezia Calabro Visconti. Dewisodd Nordisk Panorama ffilm Kina “Arr. for a Scene” fel y “Ffilm Fer Nordig Orau”. Hefyd, cafodd ei rhoi ar y rhestr fer ar gyfer Gwobr Caffaeliad Talent Ifanc VISIO yn Fflorens. Mae gweithiau Kina i’w cael mewn casgliadau mewn mannau megis Musée de l’Elysée, Fundación RAC – Sefydliad Celfyddyd Gyfoes, Amgueddfa Celfyddyd Gyfoes Kiasma, Amgueddfa Gelf Dinas Helsinki, Sefydliad Saastamoinen, Dinas Levallois, Ffrainc, Amgueddfa Ffotograffiaeth y Ffindir ymysg eraill.