Intimate Distance
Timothy Gwyn John
Wrth wraidd Intimate Distance mae syniadau am sut yr ydym yn cysylltu a chyfathrebu â’n gilydd. Wrth gwrs, mae iaith, boed hynny’n eiriol neu ystumiol, yn rhan hanfodol o hyn. Cafodd ‘Intimate Distance’ ei greu fel gosodwaith awyr agored, gan gyfuno ‘iaith’ sŵn adar gyda deialogau a disgyblaethau gwahanol iawn sgiliau crefftwaith coed traddodiadol a thechnoleg newydd. Ar un wedd, mae’n drosiad cerfluniol o’r teimladau sy’n corddi pan fo’r pethau yr ydym yn eu crefu mewn bywyd yn dechrau ein gorsymbylu a mynd yn drech na ni.
Mae Intimate Distance yn cynnwys cyfres o dai adar cain o bren castan melys ar bolion copr. Tu fewn i bob tŷ, mae synhwyrydd uwchsonig, cyfrifiadur Raspberry Pi a seinydd. Mae’r synhwyryddion uwch sonig yn mesur pellter ac wrth i rywun neu rywbeth ddynesu, mae lefel sain canu’r adar yn cynyddu’n unol â hynny.
Yn yr un modd, wrth i wyliwr ddynesu at y tai adar i weld beth sy’n digwydd, mae lefel sain canu’r adar yn cynyddu – efallai hyd bwynt lle mae’r gwyliwr yn cael ei lethu gan yr union beth a’i sbardunodd i ddynesu yn y lle cyntaf.
Proffil Artist
Timothy Gwyn John
Mae thema ‘cysylltedd’ - beth sy’n ein cymell i gysylltu â’n gilydd a’n hamgylchfydoedd – wedi bod yn ganolog i fy ngwaith ers degawd a mwy wrth i fi deithio rhwng dinasoedd ac o amgylch y byd. Mae presenoldeb di-dorr polion teligraff a gwifrau ar draws pob tirlun a hollbresennoldeb cynyddol cyfryngau cymdeithasol yn sbarduno fy ngwaith ac yn fy nghymell i ystyried pam ein bod yn dewis cadw mewn cysylltiad â’n gilydd a holl rychwant y ffyrdd sydd gennym i wneud hynny. Wrth gyfuno technegau crefftwaith traddodiadol gyda thechnoleg ddigidol, mae fy ngerfluniau aml-gyfrwng yn gwrthosod byrhoedledd di-ildio dulliau cyfoes o rannu negeseuon gyda dyhead i greu rhywbeth arwyddocaol a hirhoedlog. Wrth wneud hynny, maent yn cyflwyno ystyriaeth o angen cyson dynoliaeth i greu cysylltiadau a chadw mewn cyswllt.