Arddangosfa / 1 Ebrill – 30 Ebrill 2019

Children of Vision

Alina Kisina

Children of Vision
© Alina Kisina

Mae Children of Vision yn brosiect parhaus sy’n deillio o berthynas ers tro byd rhwng yr artist ag Ysgol Gelf Arbennig Kiev Rhif 11 ar gyfer Plant â Nam ar eu Golwg ac Anableddau Eraill. Mae agwedd flaengar y sefydliad yma at greadigrwydd ac anabledd yn nodedig. Yma, mae’r plant yn cael cyfle i oresgyn eu hanableddau a gadael cyfyngiadau eu cefndiroedd cymdeithasol a datblygu’n bobl broffesiynol annibynnol - gan gynnwys bod yn artistiaid, cerddorion, cynllunwyr, penseiri tirlun ac athrawon llwyddiannus. Mae Alina’n defnyddio ffotograffiaeth i gysylltu ag anian ddynol y plant. Mae hi’n dal golwg pob plentyn heb ffocysu’n benodol ar y sialensiau unigryw y mae’n eu hwynebu, ond heb eu hanwybyddu chwaith. Wrth weithio fel hyn mae hi hefyd, o fwriad, yn edrych y tu hwnt i bortreadau ystrydebol o Ddwyrain Ewrop.

Mae’r bwlch sydd wedi agor rhwng y breintiedig a’r rheiny sy’n cael eu cau allan yn bwnc llosg ym myd y celfyddydau a sector ddiwylliannol y Deyrnas Unedig; ar adeg pan mae’r celfyddydau’n diflannu o’r cwricwlwm a drws y celfyddydau a chreadigrwydd yn cael ei gau i nifer cynyddol o bobl, mae Ysgol Gelf Arbennig Kiev yn grymuso plant trwy greadigrwydd. O gerddoriaeth i osod blodau, dawns, crochenwaith a phaentio, mae’r plant yn cael eu hannog i ddarganfod eu diddordebau unigryw eu hunain. Caiff hynny ei ddefnyddio wrth feithrin eu hyder, dulliau meddwl haniaethol, y côf, sgiliau cymdeithasol ac arfau allweddol eraill sy’n eu helpu i oresgyn pob math o heriau.

“...yn ei chyfres o luniau, Children of Vision, mae Alina Kisina bellach yn defnyddio arddull sy’n cyfuno’r dogfennol â chelf gain. Ers gwirfoddoli yn yr ysgol yn 2003, mae Alina wedi gweithio i godi arian yno’n gyson. Fe ddychwelodd yn 2016 ac yn 2017 i weithio ar astudiaeth fanwl o’r plant a’r berthynas rhyngddyn nhw, yr athrawon a’r staff cynorthwyol. Mae ei ffotograffau o’r gyfres yma’n ein helpu i weld plant sydd eu hunain yn cael trafferth gweld ond sy’n pefrio wrth rannu eu cynhesrwydd afieithus a’u cyfeillgarwch. Mae’r lluniau yma’n dangos eu penderfyniad cadarn a thawel wrth ymroi i greadigrwydd a dysgu sy’n eu helpu i esgyn y tu hwnt i’w hanableddau...

- Yr Athro Raoul Eshelman

Proffil Artist

Portread o Alina Kisina

Alina Kisina

Mae Alina Kisina yn artist o ffotograffydd Wcranaidd-Prydeinig sy’n byw a gweithio yn y Deyrnas Unedig. Wrth galon ei gwaith mae ymgais i ffeindio cytgord mewn anrhefn drwy’r rhinweddau dynol elfennol ac oesol hynny sy’n ein cario y tu hwnt i leoliad, rhyw a chefndir cymdeithasol.
Mae gwaith Alina wedi cael ei arddangos ledled y byd. Dangoswyd ‘Children of Vision’ fel arddangosfa unigol yng Nghyfadeilad yr Amgueddfa Gelfyddyd a Diwylliant Cenedlaethol yn Kiev yn Wcráin yn 2017 a 2018. Ymysg arddangosfeydd unigol eraill ganddi mae: ‘City of Home’ a ddangoswyd yn Street Level Photoworks yn Glasgow a’r Light House Media Centre yn Wolverhampton a hefyd yng ngŵyl FORMAT International Photography Festival yn Derby, yn ogystal â mewn gwyliau yn Singapore a Syria. Mae addysg ac ymgysylltu â’r cyhoedd yn ganolog i ymarfer artistig Alina. Bu’n ddarlithydd gwadd ym Mhrifysgol Wolverhampton ac yng Ngholeg Celf a Dylunio Duncan of Jordanstone. Ar hyn o bryd mae Alina’n dal i gyflwyno sgyrsiau cyhoeddus, cynnal adolygiadau portffolio a gweithdai cyfranogol gydag ysgolion a grwpiau eraill.