Standing Up
Ayesha Khan
Mae’r ffaith y gwneir 80% o gwynion am gamdriniaeth gorfforol gan fenywod Mwslimaidd yn dystiolaeth gref i’r ffaith nad oes digon o addysg na goleuni ynglŷn â’r ffydd Islamaidd ym Mhrydain. At hynny, mae’r gymhareb rhwng disgrifiadau negyddol a rhai positif o Fwslimiaid yn y cyfryngau Prydeinig yn 21:1, un o’r ffactorau sy’n arwain at dwf Islamoffobia.
Mae’r project hwn yn archwilio hunaniaeth gwragedd Mwslimaidd sy’n gorfod amddiffyn eu hunain tra’n addysgu pobl ynglŷn ag Islamoffobia hefyd. Mae dillad pob cyfranogydd yn dangos yr amrywiaeth eang y bydd gwragedd Islamaidd yn dewis eu gwisgo. Yn y cyfryngau, ceir stereoteip o ffordd gyffredinol o wisgo sy’n awgrymu fod pob Mwslim yn gwisgo fel Arab, nad yw, wrth gwrs, yn wir: nid diwylliant mo Islam, ond crefydd.
Creodd Ayesha Khan luniau o fenywod Mwslimaidd pwerus a’u cyfuno ag adeiladau Gorllewinol dylanwadol yng Nghaerdydd, adeiladau penodol sy’n cynrychioli’r Gorllewin o ran diwylliant, hanes, addysg, llywodraeth a’r cyfryngau. Dewisodd y sefydliadau hyn i ddangos, pe bai pob un yn hyrwyddo Islam mewn ffordd bositif ac ar raddfa fawr, y byddai’r effaith yn weladwy dros ben gan fod pob un ohonynt yn destun parch yn ei ffordd ei hun, ac yn denu ei gynulleidfa ei hun.
Wrth wneud ei phortreadau, gwnaeth Khan ddefnydd da o oleuni naturiol i greu cysgodion a goleubwyntiau lle y teimlai bod hynny’n ychwanegu at ei neges. Defnyddir y goleubwyntiau i greu gwawr sanctaidd – ‘Noor’ – ar wyneb pob cyfranogydd, i fynegi eu bod yn sefyll yn erbyn anffafriaeth tra'n dal i ymfalchïo yn eu ffydd. Mae'r cysgodion yn cynrychioli'r tywyllwch o fewn syniadau Islamoffobig a'r ymddygiad sy'n deillio o hynny.
Cytunai pob cyfranogydd â’r datganiad bod Islam wedi cael ei chamddehongli gan lawer o bobl, a bod mwy o angen goleuo pobl a’u haddysgu ynglŷn â gwir neges Islam, sef heddwch.
Proffil Artist
Ayesha Khan
Mae Ayesha Khan yn ffotograffydd Cymreig sy’n defnyddio ei gwaith creadigol i fynd i’r afael â cham-gynrychiolaeth o ferched Mwslemaidd ar y cyfryngau Prydeinig. Ag Ayesha’n hanu o gefndir hanner-Gymreig a hanner-Pacistanaidd, mae hi’n deall y ddau ddiwylliant a’r gwahaniaethau rhyngddynt. Mae hi hefyd yn ferch Fwslemaidd sy’n gwisgo hijab; o ganlyniad cafodd brofiad personol o faterion craidd sy’n ymwneud â stereoteipio ac Islamoffobia wrth iddi dyfu i fyny yng nghymoedd De Cymru. Un o themâu canolog ei gwaith ffotograffig yw’r portread o ferched Mwslemaidd pwerus, a hynny’n ymateb uniongyrchol i stereoteipiau negyddol o Fwslemiaid fel y’u gwelir mewn delweddau cyfryngol o bob math.