The Coal Face
Richard Jones
Arddangosfa sy’n cyflwyno darlun o ddiwydiant glo Cymru trwy gyfrwng wynebau’r gweithlu yw The Coal Face. Yn ei hanterth diwydiannol, Cymru oedd prif gynhyrchydd glo’r byd ac roedd dros 600 o byllau glo yn Ne Cymru. Heddiw, dim ond olion prin a chreithiau sydd ar ôl i dystio i’n hanes diwydiannol diweddar. Mae llwch y glo wedi mynd. Mae’r pyllau wedi cau. Mae’r afonydd a fu’n licris du bellach yn groyw ac mae’r cymoedd yn wyrdd. Erbyn heddiw mae’r gweithlu ar wasgar ac yn y cysgodion; yn henach, yn ddoethach ond yn llesgáu hefyd. Wynebau’r dynion yma yw’r allwedd i’n gorffennol diwydiannol. Daeth glowyr o gymoedd y Rhondda, Rhymni, Taf a’r Ebbw i gymryd rhan yn y sesiynau stiwdio dwys a arweinodd at greu’r portreadau 3-D yma. Cynhaliwyd y sesiynnau i gyfeiliant recordiadau gan y cyfansoddwr John Rea o leisiau’r gweithwyr a seiniau eu hardaloedd.
Er mwyn creu’r delweddau 3-D, roedd yn rhaid i bob un yn ei dro eistedd yn hollol lonydd tra roedd camerau cydraniad uchel ar reiliau yn eu sganio (tynnu ffotograffau). Mae’r broses yn creu tua 200 o ddelweddau sy’n cael eu bwydo drwy feddalwedd ffotogrametreg. Mae’r feddalwedd yn prosesu’r pellteroedd cymharol rhwng gwahanol bwyntiau a chyfeirnodau i greu ‘cwmwl dwys’ tri dimensiwn o filiynau o gyfeirnodau. Wedi hynny, caiff mesh dwysedd uchel ei greu ac yna mae gorchudd ffotograffig arbennig yn cael ei osod drosto. Mae’r ddelwedd 3-D orffenedig yn gwmwl o fesuriadau sy’n atseinio’r ddelwedd wreiddiol.
Proffil Artist
Richard Jones
Magwyd Richard Jones ym Medwas a Machen yng Nghwm Rhymni. Mae’n tynnu ffotograffau o ‘bobl bob dydd’ sy’n adlewyrchu dylanwad y gymdeithas a’r cymunedau y maent yn byw ynddynt. Mae ganddo ddiddordeb arbennig mewn diwydiant, tirluniau diwydiannol a nodweddion wynebau pobl. Yn ddiweddar mae ffocws ei waith wedi symud o gyfryngau print i brosiectau clyweledol digidol. Ar hyn o bryd mae’n gweithio ar brosiectau lle caiff ffotograffau eu trawsnewid yn fewnosodiadau digidol wrth ddefnyddio technegau treigl amser, paralacs 2.5-D a sganiau 3-D o wrthrychau, wynebau a llefydd. Cyflwynir y delweddau a’r elfennau gweledol yma i gyfeiliant recordiadau o leisiau, seiniau amgylcheddol a sgorau cerddorol.
Cyhoeddwyd gwaith Richard Jones gan bapurau newydd a chylchgronnau ledled y byd gan gynnwys: Stern, Focus, Marian, Paris Match, Le Figaro, Le Point, L’Express, Courier Int, New York Times, L.A. Times, Boston Globe, Time, Newsweek, BusinessWeek, The Economist, The Sunday Times, The Guardian, The South China Morning Post, The Independent Magazine, Marie Claire Magazine (DU, UDA, Ffrainc), El mundo, Life Magazine (Observer) a Weekend (Guardian)