Arddangosfa / 1 Ebrill – 30 Ebrill 2019

Go home, Polish

Michal Iwanowski

Go home, Polish
© Michal Iwanowski
Go home, Polish
© Michal Iwanowski
Go home, Polish
© Michal Iwanowski
Go home, Polish
© Michal Iwanowski

“Yn 2008, fe ddes ar draws graffiti ar wal ger lle ro’n i’n byw yng Nghaerdydd. ‘Pwyliaid, Ewch Adre’. Dyna oedd y neges. Bues i’n pendroni dros y peth am sbel. Ro’n i ‘chydig yn ansicr – a ddylwn i hel fy mhac i rywle arall neu ai dyma lle’r oedd fy nghartref. Yn 2016 â refferendwm Brexit yn rhwygo Prydain a thon o genedlaetholdeb eithafol yn sgubo ar draws Ewrop, roedd rhywbeth llawer mwy bygythiol am y slogan yna. Roedd yn rhaid i fi ymateb iddo. Yn llythrenol”.

Ym mis Ebrill 2018, fe gychwynodd Michal Iwanowski ar siwrne. Taith gerdded 1900km rhwng ei ddau gartref, Cymru a Gwlad Pwyl; gyda phasbort Prydeinig yn un llaw, pasbort Pwylaidd yn y llall. Fe dynnodd linell syth ar y map, ac ar ôl cael gafael mewn pâr o sgidiau cerdded cryf, fe gamodd allan o’i fflat yng Nghaerdydd, troi tua’r dwyrain, ac i ffwrdd â fe: Cymru. Lloegr. Ffrainc. Gwlad Belg. Yr Iseldiroedd. Yr Almaen. Y Weriniaeth Tsiec. Gwlad Pwyl. Ei fwriad oedd holi pobl ar hyd y ffordd am ystyr ‘cartref’. Beth mae hynny’n ei olygu?

Fe gymerodd y siwrne 105 o ddyddiau o’i dechrau i’w diwedd.

Er bod Michal wedi rhagweld gwrthdaro, eithafiaeth ac eithafion, a phob math o broblemau lletchwith, nid dyna fu hanes ei gyfarfyddiadau ar hyd y ffordd. Yn hytrach, fe gafodd atebion personol ac ystyrlon i’w gwestiwn; ymatebion rhwng cyd-ddyn a chyd-ddyn yn hytrach na sgyrsiau rhwng dinesydd â thramorwr. ‘Bron yn ddi-eithriad, fe fyddai pob un a holais yn rhoi ei law ar ei chalon neu ar ei galon wrth ddangos i fi lle’r oedd ‘gartre’. Roedd sawl un yn awyddus i gyd-gerdded gyda fi. Prin iawn fu unrhyw sgwrs am genedlaetholdeb. Dim ond unwaith y ces fy erlid’.

Ar hyd y ffordd, fe grebachodd unrhyw arwyddocâd a fu gan y slogan ‘Pwyliaid, Ewch Adre’ nes ei fod yn amherthnasol. Er hynny, fe benderfynodd Michal ei gadw fel teitl a rhyw fath o echel symbolaidd i’r prosiect: yn her i ddefnydd iaith sy’n anwybyddu’r profiad dynol wrth fynnu labeli’r ‘dieithr’ a’r ‘estron’; ac fel ffordd o osgoi cyffredinoli’r profiad dynol ac edrych ar yr agenda geowleidyddol trwy lygaid a phrofiad pob unigolyn.

Ac felly, ble mae ‘gartre’? Mae’n anodd cael gafael ar ateb. Mae’n gymleth. Mae’n benbleth llithrig sy’n drech nag amser a gweinyddiaeth.

Dyma yw hiraeth. Dyma yw heimet. Cartref.

Derbyniad Agoriadol
Iau 4 Ebrill, 7pm
Perfformiadau gan Gwenno a W.H. Dyfodol

Proffil Artist

Portread o Michal Iwanowski

Michal Iwanowski

Mae Michal Iwanowski yn artist sy’n byw a gweithio yng Nghaerdydd. Enillodd radd meistr mewn Ffotograffiaeth Ddogfennol o Brifysgol Cymru, Casnewydd. Mae wedi bod yn dysgu ffotograffiaeth yn Ffotogallery ers 2011. Mae ei waith yn cyfuno elfennau o’r traddodiad dogfennol gydag arddull gysyniadol. Mae ei brosiectau yn dra phersonol. Yn aml mae’n gosod ei destunnau a’i brif gymeriadau yn erbyn byd natur gan archwilio’r berthynas rhwng y tirlun a’r côf, a chofnodi bywydau, digwyddiadau a hanes a fyddai fel arall yn llithro heibio’n dawel a di-nod. Yn 2009, enillodd wobr y Magenta Foundation i ffotograffwyr ar fin ennill eu plwyf, yn ogystal â derbyn Clod Arbennig yn Px3 Prix De Photographie ym Mharis. Derbyniodd ei brosiectau, ‘Clear of People’ a ‘Go Home Polish’, grantiau gan Gyngor Celfyddydau Cymru. Enillodd y ddau brosiect fri a sylw rhyngwladol ac fe gawsant eu harddangos a’u cyhoeddi’n rhyngwladol. Yn 2018, ffilmiwyd a darlledwyd ffilm ddogfen fer am brosiect ‘Go Home, Polish’ gan TV Arte. Cafodd monograff cyntaf Michal Iwanowski, ‘’Clear of People’, ei gyhoeddi gan Brave Books yn 2017 ac yna’i enwebu ar gyfer Gwobr Deutsche Borse Photography yn 2018.