Songs from 'The Family' - a Musical by George & Martha Lowman
Sebastián Bruno
Flynyddoedd yn ôl, pan ddiflannodd y diwydiannau olaf o gymoedd y de-ddwyrain cafodd Martha ei bwrw gan don ddwys o ddicter. “...ro’dd e’n ofnadwy gweld yr holl swyddi yna’n diflannu. Ac yn sydyn, mae cân yn fy mhen - a dyna le ro’n i, lan yn y cae yn mynd â’r cŵn am dro, a do’dd neb arall o gwmpas, felly dyma fi’n dechrau canu ar dop fy llais”.
Fe ruthrodd hi adre i gofnodi’r cyfan ar bapur.
Fe roddodd hi deitl i’r gân, sef ‘Cân y Teulu’; teyrnged i’w chymuned a oedd yn mynd drwy un o gyfnodau anoddaf ei hanes. Roedd Martha a’i gŵr George wedi tanio. Bu’r ysfa i helpu eu cymuned yn sbardun iddyn nhw sgwennu mwy o ganeuon gyda’i gilydd. Yn raddol, fe wnaethon nhw greu drama gerdd: Stori am deulu, yn delio â sefyllfa gymdeithasol, wleidyddol ac economaidd y cyfnod hwnnw.
Rai blynyddoedd yn ddiweddarach, yn 2015, fe symudodd ffotograffydd o’r Ariannin i Abertyleri. Mae e’n digwydd cwrdd â Martha a mynd i’w thŷ am baned. Yn ystod eu sgwrs, mae hi’n sôn am y ddrama gerdd a sgwennodd, ond na chafodd ei llwyfannu erioed. Mae’r caneuon yn cydio yn ei ddychymyg. O hynny ymlaen, mae e’n meddwl yn gyson am sut i rannu caneuon Martha a George gyda mwy o bobl.
Mae Sebastian Bruno yn cyflwyno…
Caneuon o ddrama gerdd “Y Teulu”, gan George a Martha Lowman. Profiad trwythol sy’n cyfuno gosodwaith, ffotograffiaeth a thechnoleg rithwir.
Proffil Artist
Sebastián Bruno
Sebastian Bruno. g.1989. Ffotograffydd a gwneuthurwr ffilm Archentaidd/Sbaenaidd.
Mae ymarfer Sebastian yn seiliedig ar ei brofiadau unigol penodol a chyffredinol yn ogystal â’i ymroddiad llwyr i bobl a llefydd. Nod ei ymarfer yw ceisio deall ac archwilio holl gymlethdodau profiadau a chydberthynas ddynol yn eu cyd-destun gwleidyddol, hanesyddol a chymdeithasol: Cynnig dehongliad o fyd, cymunedau a phobl sydd wedi cael eu gadael ar ôl yn llwybr cynnydd. Dyna sy’n ei arfogi i greu naratifau go iawn a gwefreiddiol sy’n ein cario y tu hwnt i ffiniau ymarfer dogfennol traddodiadol.
Cafodd ei fonograff cyntaf, ‘Duelos y Quebrantos’, ei chynnwys ar restr fer gwobr Prix du Livre d’auteur yn Le Rencontres de la Photographie, Arles yn 2018.
Mae’n un o raddedigion cwrs nodedig Ffotograffiaeth Ddogfennol Prifysgol De Cymru (Casnewydd gynt)