Arddangosfa / 1 Ebrill – 30 Ebrill 2019

Identity

Zara Mader

Mae dylanwad pync yn dal yn fyw heddiw. Bu effaith pync ar Zara Mader yn sbardun iddi greu prosiect yn seiliedig ar y gantores a’r sgwennwr caneuon, Poly Styrene, o’r band pync X-ray Spex. Gan fod Poly Styrene wedi creu cymaint o argraff ar Mader roedd hi eisiau ffeindio os oedd hi wedi cael dylanwad tebyg ar fenywod eraill. Roedd y ffordd y dewisodd hi ddehongli estheteg pync a’i lliw yn golygu ei bod hi’n ffigwr unigryw yn niwylliant pync.

Mae cynrychiolaeth yn ystyriaeth hollbwysig i’r rhan fwyaf o bobl. Fel menyw hil gymysg â diddordeb mewn pync, fe ddangosodd Poly Styrene fod pob math o bosibiliadau’n agored i Zara Mader; y gallai ddilyn gyrfa ym myd ffotograffiaeth lle nad oedd llawer o bobl oedd yn edrych yr un peth â hi. Mae’n ddiddorol nodi bod Styrene a Mader yn rhannu’r un ddwy hil: Prydeinig a Somali.

Mae’n hawdd diystyru effaith a dylanwad menywod ym myd cerddoriaeth. O’u cymharu â dynion, mae profiadau menywod yn y diwydiant cerddoriaeth yn golygu bod yn rhaid iddynt weithio’n galetach cyn cael eu cymryd o ddifrif. Roedd Poly Styrene yn benderfynol o gael ei chymryd o ddifrif, o wrthod gadael i’r ffaith ei bod yn fenyw weithio yn ei herbyn na gadael i’r diwydiant ei rhywioli. Roedd hi’n arloesol. Fe dorrodd dir newydd. Roedd hi’n sgwennwr caneuon gwych ac yn ysbrydoliaeth i lawer o bobl.

Cafodd lleoliadau’r delweddau yma eu dewis yn benodol oherwydd bod ganddynt gysylltiad â cherddoriaeth. Roedd yr artist yn teimlo bod y cyd-destun hwnnw’n bwysig i’r prosiect.

Mae hi am ddiolch i holl gyfranogwyr y prosiect am rannu eu profiadau a chymryd rhan.

Proffil Artist

Portread o Zara Mader

Zara Mader

Fel ffotograffydd o hil gymysg, o Gymru, ac fel ffan o pync, mae fy mhrosiect yn ymateb i’r ffordd yr hawliodd Poly Styrene ei lle ym myd a diwylliant pync, ac i fy sefyllfa innau fel artist o ffotograffydd yma yng Nghymru. Am ein bod ni’n rhannu’r un cymysgedd ethnig, mae gen i ddiddordeb i wybod pa ran y chwaraeodd hil yn newisiadau Poly Styrene wrth greu gyrfa pync mor llwyddiannus, a pha effaith a gafodd ei dosbarth cymdeithasol wrth iddi ddewis ei gyrfa. Mae gen i lawn cymaint o ddiddordeb yn y dylanwad sy’n dal ganddi ar fenywod heddiw. Er bod ei lliw yn dynodi ei bod yn wahanol, fel y gwnaeth y ffordd y dewisodd wisgo, mae hi’n cynrychioli grŵp cymdeithasol sydd ar gynnydd ym mhoblogaeth Prydain, sef pobl hil gymysg. Ac felly rwy eisiau cwestiynnu beth mae bod yn ‘Brydeinig’ yn ei olygu o ran sut yr ydym yn edrych.