Arddangosfa / 4 Ebrill – 18 Mai 2019

Chapel

Paul Cabuts

Chapel
© Paul Cabuts
Chapel
© Paul Cabuts

Mae capeli anghydffurfwyr cyfoes yng Nghymru’n dal i chwarae rhan bwysig yn eu cymunedau. Er bod pobl yn addoli llai heddiw nag oeddent rai degawdau yn ôl, mae nifer sylweddol o’r adeiladau hyn i’w cael o hyd mewn trefgorddau, pentrefi a threfi ledled Cymru.

Mae capeli sydd ag enwau megis Seion, Nasareth a Thabernacl yn dod â mannau Beiblaidd i’r meddwl ond maent hefyd yn creu darluniau o’r diwygiadau crefyddol mawrion yng Nghymru. Mae capeli eraill sydd ag enwau megis Harmoni, Roc a Gospel, yn cyfeirio fwy at y traddodiadau llafar, sy’n cynnwys pregethu carismatig a chanu emynau’n gydwybodol fel cynulleidfa. Yn fwy na dim, cydnabyddir bod llawer o gapeli anghydffurfwyr wedi chwarae rôl allweddol yng ngoroesiad yr iaith Gymraeg ac roeddent yn bwysig i barhad bywyd diwylliannol Cymru.

Heddiw mae rhai capeli’n parhau â’u gweithgareddau defodol crefyddol ac angladdol, tra bo eraill wedi eu troi’n adeiladau seciwlar. Mae acwsteg ragorol yr adeiladau hyn yn golygu bod capeli’n fannau delfrydol i roi perfformiad cerddorol, fel stiwdios recordio ac fel man i gôr ymarfer. Mae eu pensaernïaeth syml hefyd yn eu gwneud nhw’n boblogaidd i’w defnyddio’n fasnachol ac i’w troi’n gartrefi preifat.

Proffil Artist

Portread o Paul Cabuts

Paul Cabuts

Am ei fod yn byw yng Nghymru, mae arferion ffotograffig Paul Cabuts wedi canolbwyntio ar Gymoedd de Cymru ers mwy na dau ddegawd. Mae ei waith wedi ymddangos mewn lleoliadau yn y Deyrnas Unedig a thu hwnt, gan gynnwys Canolfan Ffotograffiaeth Awstralia, Treffpunkt Stuttgart, Yr Almaen ac Oriel Ffotograffiaeth Kaunas, Lithwania. Derbyniodd Cabuts Wobr Cymru Greadigol gan Gyngor Celfyddydau Cymru, a chafodd ei gomisiynu i weithio ar amrywiol brosiectau ffotograffiaeth yn cynnwys prosiect Capture Wales sydd wedi ennill Gwobr BAFTA Cymru’r BBC. Mae ei ffotograffau i’w cael mewn nifer o gasgliadau gan gynnwys y rheiny yn Amgueddfa Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Ffotogallery.
Dyfarnwyd PhD iddo yng Nghanolfan Ymchwil Ffotograffig Ewrop a chwblhaodd MA mewn Celfyddyd Gain ym Mhrifysgol Aberystwyth a BA (Anrh) mewn Ffotograffiaeth Ddogfennol yn Ysgol Gelf a Dylunio Casnewydd. Cyhoeddodd Gwasg Prifysgol Cymru ei fonograff Creative Photography and Wales yn 2012. Ar hyn o bryd mae’n Gymrodor Ymchwil Anrhydeddus yn Amgueddfa Cymru.