Exhibitions
Posted on April 25, 2019
Cewch glywed am waith Diffusion 2019, Gŵyl Ffotograffiaeth Ryngwladol Caerdydd, gan David Drake, Cyfarwyddwr yr ŵyl a Ffotogallery.
Gan gychwyn yn 29 Stryd y Castell, bydd y cerddwyr yn teithio yn eu blaenau i Shift (sydd gerllaw Café Nero ar Stryd y Frenhines) ac yna’n gorffen wrth y Porth.
Byddwch yn clywed yn uniongyrchol gan y Cyfarwyddwr am y prosiectau a’r artistiaid hyn:
Os na allwch fynd i’r digwyddiad cyfan, cysylltwch â’r Cydlynydd Digwyddiadau ac Ymgysylltiad, Catherine McKeag ar [email protected].
Mae’r digwyddiad hwn ar gyfer myfyrwyr yn unig.
Continue reading
Posted on April 12, 2019
Dewch i ymuno â ni am dridiau o hwyl ryngweithiol i’r teulu cyfan. Dros y penwythnos byddwn yn cyflwyno fflach-arddangosfa, ‘Route to Roots’ - arddangosfa o 2017 sy’n dathlu achau a llinach, cysylltiadau a gwahaniaethau, ac sydd wedi ysbrydoli ein rhaglen o weithgareddau amrywiol i bawb o bob oed.
Bydd yr anhygoel Nathan Wyburn yn defnyddio pridd i greu portread arbennig o un o gymeriadau chwedlonol Caerdydd, Ninjah.
Rhwng 11am a 3pm bob dydd yn Shift, mae gyda ni bob math o weithgareddau creadigol a chyffrous - cymerwch gip ar y rhestr isod:
Iau 18 Ebrill
Bydd Nathan yn croesawu teuluoedd i Shift o 11am ymlaen i ddechrau creu’r portread anferth.
Gwener 19 Ebrill
Bydd Nathan yn parhau i weithio ar y portread anferth o Ninjah, a bydd Adeola Dewis (Cyfarwyddwr y Prosiect) a Flow Maugran (Cynllunydd a Gwneuthurwr Gwisgoedd) yn cynnal gweithdy masgiau dawns yr egungun (hynafiad) lle bydd cyfle i chi greu ac ychwanegu eich cynlluniau a’ch geiriau eich hunan i fasg yr egungun (hynafiad).
Sadwrn 20 Ebrill
Dydd Sadwrn: Bydd Adeola a Nathan yn croesawu teuluoedd ar gyfer uchafbwynt mawr y penwythnos, sef perfformiad unigryw i ddathlu creadigaethau’r teuluoedd a’r bobl ifanc. Byddwn yn cyflwyno’r perfformiad rhwng 2pm-3pm.
Mae’r holl weithgareddau uchod yn rhad ac am ddim. Byddwn hefyd yn cynnig lluniaeth ysgafn am ddim ar y safle. Does dim toiledau ar gael yn ein rhan benodol ni o’r adeilad, ond mae toiledau am ddim a chyfleusterau i fabanod yn Arcêd Capitol. Mae gyda ni barc i bramiau a bygis ac mae’r safle’n gwbl hygyrch.
Continue reading
Posted on April 10, 2019
Mae PHRAME yn gasgliad anffurfiol a bywiog o bobl sydd am ganolbwyntio ar hyrwyddo a chefnogi gwaith ffotograffwyr benywaidd sy’n dechrau ennill eu plwyf yn ardal De Cymru. Y bwriad, yn rhannol, yw mynd i’r afael â’r diffyg cydbwysedd sy’n bodoli ar hyn o bryd: Mae prinder cyfle i fenywod arddangos a chyhoeddi eu gweithiau ffotograffig, ac mae’r mentrau cydweithredol a ffurfiwyd yng Nghymru hyd yma’n cael eu llywio’n bennaf gan ddynion. Bwriad y fenter gydweithredol yma yw codi proffil y gwaith sy’n cael ei greu gan aelodau PHRAME trwy arddangosfeydd a sgyrsiau a thrwy gefnogi ein gilydd. Mae PHRAME hefyd yn llwyfannu ymyrraethau a digwyddiadau pryfocio llai confensiynol er mwyn herio ystrydebau a holi cwestiynnau pwysig am gyfraniad a gwerth ymarfer artistig menywod a gwthio ffiniau ffotograffiaeth o ran y broses a’r gwrthrych terfynnol.
Ffurfiwyd PHRAME yn 2018 ar y cyd gan Celia Rose Jackson a Lisa Edgar, gyda chefnogaeth Lydia Pang. Mae drws ein menter gydweithredol ar agor i bawb, waeth beth yw eu hoedran, rhyw, hil, dosbarth neu gredo. Ry’n ni’n cynnig croeso cynnes, cyfle i rannu arbenigeddau ac egni ac awyrgylch gynhwysol.
Continue reading
Posted on April 08, 2019
Dyw Lord Spittledash ddim yn hapus am hyn, ond ar ôl lot o rwgnach mae wedi agor gatiau ei blasty yng Nghwrt Insole i garfan o freuddwydwyr, swagrwyr, enwogion ac ysbïwyr. Trwy gyfrwng ffotograffiaeth, ffilm, lluniau, cerfluniaeth, sain a chelf fyw, mae ‘Altered Ego’ yn archwilio syniadau am bwy ydym ni mewn gwirionedd, a sut yr ydym yn cyflwyno hynny i’r byd. Mae’n archwilio ein alter-ego; ein syniadau am hunangyflwyniad, y ffyrdd gwahanol sydd gyda ni o gyflwyno’n hunain mewn gwahanol gyd-destunau, a’r elfennau hynny o ymddygiad dynol a ystyrir yn ‘normal’ sy’n cael eu dwysáu gan anabledd neu amgylchiadau.
Seiliwyd y prosiect ar y ddamcaniaeth ein bod ni i gyd yn creu ymdeimlad o’n hunan a phwy ydym ni, a’n bod ni’n ail-greu ac addasu hynny mewn gwahanol sefyllfaoedd. Yn aml dyw’r alter egos yma ddim yn rhy bell o’n gwir bersonoliaethau; ond maen nhw’n rhoi hyder i ni archwilio’r rhannau hynny ohonom ein hunain na fyddem ni’n gallu eu harchwilio fel arall. Maen nhw’n creu gofod seicolegol arbennig lle gallwn gyflwyno fersiwn ‘wahanol i’r arfer’ ohonom ein hunain.
Mae ‘Altered Ego’ yn ceisio meithrin model arbrofol i fynd i’r afael â materion sy’n greiddiol i’r profiad o fod yn anabl ond sydd hefyd yn berthnasol i gymdeithas drwyddi draw; y gwahanol ffyrdd sydd gennym o addasu ein hunain er mwyn bodloni agweddau a chanfyddiadau rhagamodol. Trwy gyfres o arbrofion creadigol rydyn ni’n archwilio sut mae pob un ohonom yn defnyddio graddau amrywiol o wirionedd a chywirdeb, a hyd yn oed celwydd a thwyll, wrth gyflwyno fersiynau gwahanol ohonom ni’n hunain.
Cyflwynir ‘Altered Ego’ gan grŵp o artistiaid, actorion, sgwenwyr a cherddorion anabl a heb anabledd: Sara Christova, William Craig, Paul Leyland, Zosia Krasnowolska, Rachael Smith, Rosie Swan, Kate Woodward a David Sinden. Maen nhw wedi cael popeth sydd ei angen i greu personolaethau newydd; ac felly byddwn yn cwrdd ag: Adam Lane, eilyn pop a seren ddisglair sydd wedi diflannu o lygaid y cyhoedd; Lord Spittleash, Barwn, playboy a swagrwr rhyngwladol, ysbïwr ac aristocrat...a’i was ffyddlon, Wallace; Lily-May, cantores ryngwladol gythryblus; Slim Monroe, bugail gwartheg sydd wedi gweld dyddiau gwell; Lulu Goodridge, un o sêr pop mwyaf gwefreiddiol yr 80au (a nith Lord Spittledash); Blair Maddox - yn ei arddegau ac yn llawn problemau (ac yn benderfynol o greu problemau i bawb arall); a Banks, prif arddwr Lord Spittledash, sy’n hollol sicr fod y byd ar fin chwalu’n yfflon….
Rydyn ni’n cyflwyno ‘Altered Ego’ fel rhan o raglen gŵyl Diffusion 2019 yng Nghwrt Insole yn Llandaf rhwng 13 – 28 Ebrill, gyda fforwm drafod a drefnir mewn cydweithrediad â Chelfyddydau Anabledd Cymru, Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd a Chanolfan Ysgrifennu Creadigol Prifysgol Bath Spa. Hefyd bydd arddangosfa gyhoeddus yn ystafelloedd plasty Cwrt Insole a’r gerddi o’i gwmpas – gyda gweithiau cyfryngau cymysg, gweithiau’n seiliedig ar ddelwedd a gweithiau unigol a safle-benodol yn cyflwyno cymeriadau ‘Altered Ego’. Yn rhagflas i’r arddangosfa ym mhrif adeilad y plasty, bydd arddangosfa o weithiau gan artistiaid ‘Altered Ego’ yn oriel a chaffi’r Cwt Potiau yng Nghwrt Insole rhwng 13 – 18 Ebrill.
Bydd agoriad a noson gyflwyno ‘Altered Ego’ yn archwilio’r pynciau a sbardunodd y prosiect gyda fforwm drafod yng nghwmni’r artistiaid sy’n arddangos a siaradwyr gwadd. Fe fyddan nhw’n archwilio’r broses o greu hunaniaeth a’i effaith ar eu hymarfer greadigol, ac yn trafod materion ehangach o gylch anabledd, hunaniaeth a chreadigrwydd.
Ariennir ‘Altered Ego’ gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Diffusion. Mae’n ffrwyth partneriaeth rhwng Ffotogallery, Gŵyl Ffotograffiaeth Ryngwladol Diffusion 2019, Oriel MADE, Celfyddydau Anabledd Cymru, Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd, Canolfan Ysgrifennu TRACE ym Mhrifysgol Bath Spa, Cwrt Insole a’r artistiaid.
Continue reading
Posted on April 08, 2019
Bydd Caerdydd Creadigol yn dod â’i fformat Dangos a Dweud i’r gwagle creadigol newydd, SHIFT, ar ddydd Sadwrn 13 Ebrill 3-4pm, gan ganolbwyntio ar y thema Sain+Llun fel rhan o Ŵyl Ffotograffiaeth Ryngwladol Caerdydd, Diffusion.
Yn ystod y dydd (11am-5pm) bydd Diffusion yn rhoi’r sbotolau ar y gymuned greadigol yng Nghaerdydd a’r ardaloedd cyfagos gyda ffair gwneuthurwyr i roi cyfle i artistiaid, cynhyrchwyr, gwneuthurwyr a dylunwyr arddangos eu gwaith, gwerthu eu cynhyrchion a rhwydweithio o fewn ein byd creadigol bywiog. Dewch i Shift o dan ganolfan siopa Capitol am ddiwrnod o arddangoswyr a sgyrsiau, neu galwch heibio am 3pm i weld ein siaradwyr Dangos a Dweud!
Siaradwyr yn cynnwys:
Ffion Wyn Morris, DJ and sefydlydd Ladies of Rage CDF.
4Pi Productions, stiwdio creadigol yn creu profiadau trochol
Matthew Creed, Pennaeth animeiddio Jammy Custard.
Continue reading
Posted on March 28, 2019
I gyd-fynd â'n digwyddiad Noson yng Nghwmni Sian Grigg ar 26 Ebrill 2019, mae BAFTA yn cyflwyno, am y tro cyntaf yng Nghymru, arddangosfa am ddim o bortreadau a gomisiynwyd yn ddiweddar o fenywod yn arwain y ffordd yn y diwydiant ffilm, a gymerwyd o'r gyfres barhaus Love of Film. Cyflwynwyd thema Merched yn Arwain y Ffordd yn gyntaf yng Ngwobrau'r Academi Brydeinig Cymru yn 2018.
Mae portreadau ffotograffig Phil Fisk, sydd wedi'u llwyfannu'n ofalus, yn dathlu'r angerdd a'r gelfyddyd arobryn tu ôl i'r sinema fodern.
O asiantau castio i actorion, artistiaid coluro i gynhyrchwyr, mae'r gyfres yn amlygu y broses gwneud ffilmiau a'r bobl sy'n gwneud iddo ddigwydd, y wynebau enwog o flaen y camera a'r rhai sydd wedi'u cuddio y tu ôl i'r llenni. Mae arddull Fisk yn chwareus, yn drawiadol ac yn aml yn swrrealaidd - gan ddal hanfod cymeriad a gyrfa ei bynciau.
Fel rhan o'r gyfres, comisiynodd BAFTA Fisk i weithio gyda Sian Grigg i greu portread ar leoliad yn ne Cymru, lle o arwyddocâd personol i Grigg gan mai dyma ble naeth yr artist colur tyfu i fyny ac mae yn dychwelyd yno rhwng prosiectau ffilm sy'n mynd â hi o gwmpas y byd. Fel cyn-fyfyriwr yn yr ysgol Gelf, mae'r portread newydd yn cael ei ddadorchuddio'n arbennig yn yr arddangosfa hon, ac mae'n rhodd barhaol i Gasgliad Celf Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd.
Cyflwynwyd mewn partneriaeth ag Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd, Sgrîn Cymru a Gŵyl Diffusion. Gyda chefnogaeth yr elusen Hobson.
Continue reading
Posted on March 27, 2019
Mae Siân Grigg yn ddylunydd colur sy'n adnabyddus am ei gwaith ar The Revenant, Ex Machina a The Aviator. Derbyniodd Wobr Sian Phillips BAFTA Cymru yn 2016.
Mynychodd Siân Grigg Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf yng Nghaerdydd cyn cofrestru yng Ngholeg Celf Caerdydd (Prifysgol Fetropolitan Caerdydd bellac)h, ac yna Coleg Ffasiwn Llundain yn astudio colur a gwallt ar gyfer ffilm a theledu. Roedd hi eisoes wedi cael ei chyflwyno i fyd ffilm a theledu gan fod ei mam yn Bennaeth Adran Colur y BBC yng Nghaerdydd ac yn ddylanwad enfawr ar ei phenderfyniad i ddilyn gyrfa fel artist a dylunydd cyfansoddiad.
Cynllun Siân oedd ymuno ag Adran Colur y BBC yn Llundain, yn anffodus fe gaewyd y flwyddyn cyn iddi raddio o'r Coleg ac ar y pryd roedd hi'n meddwl bod hyn yn drychineb o gyfrannau enfawr. Fodd bynnag, wrth edrych yn ôl, roedd hwn yn gyfle anhygoel gan fod ei swydd ddi-dâl gyntaf, yn syth o'r coleg, fel yr hyfforddai yn gwneud yr artist ar Howard's End gyda Anthony Hopkins, Emma Thompson a Helena Bonham Carter yn serennu. Daeth Howard's End yn gam cyntaf yn yr hyn sydd wedi profi i fod yn yrfa ffodus iawn.
Mae hi wedi bod yn lwcus iawn yn gweithio gyda rhai dylunwyr colur anhygoel, y mae pob un ohonynt wedi helpu i addysgu a gwella ei chrefft, ar ffilmiau fel Orlando, Saving Private Ryan a Titanic. Yn ddiweddar, mae Siân wedi gweithio fel artist cyfansoddiad personol ar gyfer Kate Winslet, Tobey Maguire, Kate Hudson a Leonardo Di Caprio ac mae hefyd wedi cynllunio ar gyfer ffilmiau fel Ex Machina, Suffragette, Far from the Madding Crowd, Goodbye Christopher Robin a Once Upon a Time in Hollywood.
Yn ystod ei gyrfa mae Siân wedi ennill BAFTA am ei gwaith ar The Aviator, cafodd ei henwebu am ddwy Wobr Guilds am waith ar Ex Machina, yn ogystal â derbyn enwebiadau ar gyfer Oscar a BAFTA ar gyfer The Revenant.
Wedi'i gynnal mewn Partneriaeth â Sgrîn Cymru, Prifysgol Fetropolitan Caerdydd a Ffotogallery ar gyfer Gŵyl Diffusion. Gyda cymorth gan yr Elusen Hobson
Continue reading
Posted on March 26, 2019
Ymunwch â ni ar gyfer digwyddiad Diffusion arbennig, lle bydd y cyfansoddwr John Rea yn trafod Atgyfodi gyda gwestai arbennig, gan gynnwys Huw Talfryn Walters.
Fel rhan o'r digwyddiad, bydd cyfle i weld y gosodiad Atgyfodi yn llawn.
Continue reading
Posted on March 26, 2019
Dyma gyfle i glywed gan Michal ei hun am y gwaith a'r siwrne drawsnewidiol honno, yn ogystal a gweld pytiau o ffilm ddogfen a profi bwyd Pwylaidd. Bydd gwestai arbennig iawn - Mam yr artist - hefyd yn bresennol.
Yn 2008, daeth Michal Iwanowski ar draws graffiti yn ei ardal yng Nghaerdydd yn dweud "Go home Polish." Wedi digwyddiadau cythryblus 2016 a'r blynyddoedd a ddilynodd, penderfynodd wneud y daith 1,900km o Gymru i Wlad Pwyl ar droed, gyda phasbort Prydeinig mewn un llaw ac un Pwylaidd yn y llall. Y syniad oedd defnyddio'r daith i archwilio'r cysyniad o gartref, gan sgwrsio gyda pobol ar draws y siwrne 105 diwrnod o hyd i geisio canfod ystyr perthyn a dinasyddiaeth yn Ewrop heddiw.
Continue reading
Posted on March 25, 2019
Mae’n bleser gan Ffotogallery gyflwyno premiére Liminality fel rhan o Diffusion 2019.
Gwaith dawns ymdrochol cyfoes byw yw Liminality a ddatblygwyd fel rhan o Flwyddyn Diwylliant India y DU. Fe’i gwnaethpwyd yn bosibl drwy gydweithrediad â’r Society for Arts and Technology ym Montréal (SAT).
Mae dawnswyr yn symud o dirluniau diwydiannol i amgylcheddau arfordirol yng Nghymru ac India, gan danlinellu’r tebygrwydd rhwng y ddwy wlad hyn, a’u perthynas gyfnewidiol.
Gan gyfuno dawns gyfoes, cerddoriaeth a ffilmio 360º arloesol mewn gwrthdrawiad o ddiwylliant a thechnoleg, mae Liminality yn cynnig cip ar gylchred parhaus y newid a thrawsnewid o’n hamgylch.
Mae’r prosiect hwn yn gyd-gynhyrchiad rhwng 4Pi Productions a’r Society of Arts and Technology, ac fe’i cefnogir gan Coreo Cymru, Danceworx, British Council Wales, a Chelfyddydau Rhyngwladol Cymru.
Continue reading
Posted on March 14, 2019
Ymunwch â ni ar gyfer noson arbennig sy’n cael ei chynnal gan Wobr Iris yn Diffusion 2019. Bydd y digwyddiad yn cynnwys dangosiad o Iris and Me a sesiwn holi ac ateb gyda Jon Pountney a Dai Shell yn bwrw golwg yn ôl ar ffilmiau byrion Cynyrchiadau Gwobr Iris dros y ddegawd ddiwethaf. Byddwn hefyd yn dangos dwy ffilm arbennig a gynhyrchwyd dan adain prosiectau Iris yn y Gymuned, We Leave Our Labels at the Door a Y Lolfa.
Continue reading
Posted on March 07, 2019
Galwad Agored ar gyfer cynigion gan Artistiaid/Ffotograffwyr
Cyflwyniad
Mae'r alwad agored hon yn gwahodd artistiaid a ffotograffwyr sy'n bodloni'r gofynion cymhwysedd isod i gyflwyno cynigion ar gyfer gwaith newydd i'w gynnwys yn rhan o arddangosfa deithiol Nifer o Leisiau, Un Genedl, wedi'i churadu gan David Drake, Cyfarwyddwr Ffotogallery Wales, ac Alice Randone, curadur Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Fe'i comisiynir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru a bydd yn rhan o'r rhaglen o ddigwyddiadau a gweithgareddau trwy gydol 2019 i nodi'r 20 mlynedd gyntaf o ddatganoli yng Nghymru.
Nod y rhaglen yw:
- Ennyn diddordeb, difyrru a hysbysu amrywiaeth o gynulleidfaoedd;
- Adlewyrchu bywyd, diwylliant a rhagoriaeth Cymru gyfoes;
- Helpu pobl i ddeall sefyllfa Cymru yn y byd;
- Dangos y Senedd fel cartref bywyd cyhoeddus Cymru;
- Helpu pobl i ddeall effaith gwleidyddiaeth ar eu bywydau, a deall a gwerthfawrogi democratiaeth.
Nifer o Leisiau, Un Genedl
Dylai'r arddangosfa ddefnyddio ffotograffiaeth a chyfryngau lens i archwilio'r gobeithion a'r dyheadau ar gyfer dyfodol Cymru.
Dylai anelu at gyfleu cyfoeth ac amrywiaeth daearyddiaeth, diwylliant a chymdeithas Cymru, a lle bynnag y bo modd, annog cyfranogiad y cyhoedd.
Bydd yr arddangosfa ar daith mewn amryw o leoliadau ledled Cymru yn ystod 2019/20, ac yn cael ei lansio yn y Senedd, y ganolfan ar gyfer democratiaeth a datganoli yng Nghymru, ym mis Medi 2019.
Cynulliad Cenedlaethol Cymru yw'r corff sy'n cael ei ethol yn ddemocrataidd i gynrychioli buddiannau Cymru a'i phobl, i ddeddfu ar gyfer Cymru, i gytuno ar drethi yng Nghymru, ac i ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif. Mae'n cynnwys 60 o Aelodau Cynulliad, sy'n cynrychioli ardaloedd penodol o Gymru fel aelod o blaid wleidyddol benodol neu aelod annibynnol. Mae Aelodau'r Cynulliad yn cyfarfod bob wythnos yn y Senedd pan fydd y Cynulliad yn eistedd i drafod materion sydd o bwys i Gymru a'i phobl. Maent yn gofyn cwestiynau i Weinidogion Cymru, yn cynnal dadleuon ac yn archwilio deddfwriaeth Cymru.
Ffotogallery yw'r asiantaeth ddatblygu genedlaethol ar gyfer ffotograffiaeth a chyfryngau lens yng Nghymru, ac yn 2018, dathlodd 40 mlynedd ers ei sefydlu.
Y strategaeth guradurol gyffredinol yw sicrhau bod cynnwys yr arddangosfa:
- O ansawdd uchel, yn gyfoes ac yn berthnasol i themâu'r arddangosfa;
- Yn adlewyrchu cyfoeth ac amrywiaeth Cymru a'i chymunedau trwy gynrychioli pobl o wahanol oedrannau a chefndiroedd sy'n dod o wahanol rannau o Gymru;
- Yn ennyn diddordeb, difyrru a hysbysu amrywiaeth o gynulleidfaoedd, gan adlewyrchu bywyd, diwylliant a rhagoriaeth Cymru gyfoes;
- Yn peri i rywun feddwl ac yn annog sgwrs o ran gobeithion a dyheadau Cymru dros yr 20 mlynedd nesaf;
- Ddim yn peryglu niwtraliaeth a didueddrwydd gwleidyddol y Cynulliad.
Ffocws yr Alwad Agored
Cymhwysedd
Comisiynir hyd at chwech o ffotograffwyr/artistiaid cyfryngau lens.
Wrth ymateb i themâu'r arddangosfa, bydd yr artistiaid/ffotograffwyr a gomisiynir yn creu gwaith newydd yn ymwneud â themâu gobeithion a dyheadau ar gyfer dyfodol Cymru.
Rydym yn croesawu cynigion gan artistiaid o Gymru, a/neu sy'n byw yng Nghymru ac yn gweithio ym maes ffotograffiaeth, y cyfryngau fideo a lens, delweddu digidol, gosodwaith a'r cyfryngau cymysg. Gall y cynnig fod ar gyfer gwaith cwbwl newydd, neu ddatblygiad ar waith sy'n dal i fynd rhagddo. Rydym hefyd yn croesawu cynigion gan artistiaid sy'n gweithio gyda ffotograffiaeth archifol a ffotograffiaeth a 'ganfuwyd' wrth gynhyrchu gwaith newydd.
Dyfernir y comisiynau erbyn diwedd mis Mawrth a bydd angen cynhyrchu'r gwaith newydd rhwng mis Ebrill 2019 a mis Gorffennaf 2019. Bydd y curaduron yn darparu cymorth a chyngor trwy gydol y cyfnod cynhyrchu ac yn ystod y broses o ddethol, golygu a chreu'r arddangosfa.
Beth yw gwerth pob comisiwn?
Bydd pob artist/ffotograffydd a gomisiynir yn cael ffi artist o £3,000 (i gynnwys yr holl gostau cynhyrchu, trethi a ffioedd artist), yn daladwy mewn dwy ran.
Bydd Ffotogallery yn talu am gostau argraffu, cynhyrchu a gosod ychwanegol yr arddangosfa.
Sut i wneud cais am gomisiwn
Gwahoddir artistiaid a ffotograffwyr i gyflwyno cynigion yn electronig i Liz Hewson, Cydgysylltydd Cynhyrchu, Ffotogallery, erbyn 12.00 ddydd Llun 18 Mawrth.
Dylid anfon cynigion at [email protected]
Dylai cynigion fod ar ffurf:
1) Datganiad o natur y gwaith a fydd yn cael ei greu a'i berthnasedd i themâu'r arddangosfa, yr amserlen a phrosesau, eich profiad ac esboniad pam eich bod yn gymwys (uchafswm o 500 o eiriau)
2) Enghreifftiau o waith blaenorol (dolenni gwe, jpegs, pdf)
3) Briff/CV yr artist neu'r ffotograffydd (chwe tudalen ar y mwyaf, gan gynnwys manylion cyswllt llawn a dau gyswllt proffesiynol sy'n gallu rhoi geirdaon)
Llun: New Age Travellers, Fenyw © Megan Winstone, 2017
Instagram: @meganwinstonephoto Twitter: @Megan_Winstone
Continue reading
Posted on March 04, 2019
Ymunwch â ni i glywed y ffotograffydd Paul Cabuts yn sgwrsio am ysbrydoliaeth a datblygiad ei brosiect, ‘Chapel’, yn ogystal â’i ymroddiad hir-dymor i ddogfennu agweddau o fywyd cyfoes cymoedd De Cymru. Fe fydd Paul hefyd yn trafod dylanwad y capeli ger Oriel y Gweithwyr a’u cyfraniad sylweddol i fywydau pobl a’r gymuned leol.
Wedi egwyl, bydd aelodau ‘Prosiect De Cymru’, sef Dan Wood, Anna Jones, Rebecca Sunflower Thomas, Siôn Marshall-Waters a Jon Pountney, yn trafod y prosiect ffotograffiaeth ddogfennol newydd yma sy’n digwydd ar draws De Cymru.
Continue reading
Posted on March 01, 2019
Cyfle gwych i weld cynnyrch cyntaf y cydweithrediad cyffrous rhwng GNFTF a’r cyfansoddwr o Gaerdydd Sam Barnes, sydd wedi cyfansoddi cerddoriaeth i gyfresi teledu yn cynnwys Y Gwyll a Hidden, ac sydd hefyd yn canu’r gitâr fas gyda’r band lleol Boy Azooga.
O’r dechrau un, mae GNFTF wedi ymrwymo i briodi cerddoriaeth a symudiad. Roedd What Comes Next? [2015] – a gyflwynwyd yn Chapter yng Ngŵyl Ddawns Caerdydd ac yng Ngŵyl y Gwanwyn yng Nghanolfan Mileniwm Cymru – yn cynnwys recordiadau a wnaed ar offerynnau cartref. Yn 2016, buom yn cyfranogi yn ‘anti-opera’ arbrofol Tim Parkinson, Time with People yng ngŵyl gerddoriaeth From Now On. Ac yn 2017, buom yn creu Museum Pieces: cyfres o dri choreograffi a luniwyd i gael eu perfformio mewn amgueddfeydd ac orielau – yn cynnwys Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ac Oriel Glynn Vivian, Abertawe – oedd yn atsain ac yn herio’r gweithiau celf o’u cwmpas, ac oedd yn dod gyda thraciau sain gan Sam Barnes a gomisiynwyd yn arbennig ac oedd wedi’u recordio o flaen llaw, yn rhan o’n hymrwymiad i gydweithrediad rhwng y cenedlaethau.
Mae What leg are we on? yn torri tir newydd. Ei nod yw datblygu mathau o symudiad byrfyfyr sydd wedi eu cyfeilio gan, ac sy’n ymateb i, draciau sain cerddorol sensitif ac ysgogol a grewyd yn fyw – mewn deialog arddull rhydd, lle nad oes modd rhagweld beth sy’n digwydd nesaf, mewn un cyfansoddiad artistig…
Cyflwynir What leg are we on? gan grŵp profiadol sydd wedi dod i adnabod, ymddiried a gofalu am eu corfforoldeb ei gilydd ac sy’n gallu creu patrymau doniol, emosiynol, ymdrechgar, personol ac annisgwyl mewn gweithgaredd coreograffi. Mae perfformwyr yn cydgyffwrdd gyda’u cyrff a’u hegni personol mewn cyfuniad ecsentrig ac afieithus o unawdau, deuawdau ac ystumiau, dryswch a symudiadau rhydd mewn grŵp - gan gwrdd, dilyn, cefnogi, efelychu, adlewyrchu a modelu ei gilydd. Mewn arddull sy’n frith â hiwmor byrlymus ac sydd wedi’i yrru gan naws o hwyl…
Ariennir y prosiect gyda grant gan y gronfa Help Musician UK Fusion Fund, gyda chefnogaeth gan Chapter.
Continue reading
Posted on March 01, 2019
Bydd Katz Mulk yn cyflwyno perfformiad episodig a fydd yn archwilio’r ieithoedd a deimlir sy’n cael eu creu drwy gyfuniadau cyfnewidiol o sain, dawns, llais a cherflunwaith. Mae’n creu cyfansoddiadau garw o ddarnau o gerddoriaeth bop; symudiadau anffurfiol; seibiau cerfluniol a seiniau hapgael mewn cyfuniad dirgrynol o amgylcheddau perfformio sydd prin yn gallu cynnwys ei holl wahanol ddarnau. Mae’r arferion o hel a chasglu, wedi’u hysbysu gan ffuglen wyddonol pob dydd Ursula K. Le Guin – yn enwedig ei thraethawd byr 'The Carrier Bag Theory of Fiction* - wedi bod ac yn mynd i barhau i fod yn fan cysylltu i’r perfformiad. Bydd Katz Mulk yn berfformwyr preswyl yn yr wythnos cyn y perfformiad; byddent yn defnyddio’r amser yma i weithio gydag artistiaid a choreograffwyr lleol ar gyfres o sgorau a fydd yn rhan o’r perfformiad. Ochr yn ochr â’r perfformiad, bydd Katz Mulk hefyd yn defnyddio’r amser yma i archwilio gwrando dwfn fel ffordd o gysylltu ag eraill a dynameg newidiol y man perfformio.
*Gellir canfod 'The Carrier Bag Theory of Fiction' yng nghasgliad Le Guin o draethodau, Dancing at the Edge of the World (1989).
Continue reading
Posted on March 01, 2019
“If you're lost, you can look and you will find me
Time after time”
Dau gwpwl; un rhyddfrydol, un ceidwadol. Un blaengar, un traddodiadol. Un heb ffydd, un sy’n selog i ffydd.
Ddeng mlynedd yn ôl, ar ddiwrnod rhewllyd llawn eira yn yr Unol Daleithiau, treuliodd Greg Wohead a’i bartner bryd hynny brynhawn gyda chwpwl Amish traddodiadol. Mae Call it a Day yn ymwneud â’r cyfarfod annhebygol hwnnw. Mae’r hyn sy’n digwydd wedyn ar y llwyfan yn ail fyw’r cyfarfod hwnnw mewn ffordd ryfedd, swrrealaidd, rhannol fyrfyfyr, gan ailadrodd y digwyddiad eto, ac eto ac eto ac eto.
Mae Call It A Day yn cynnwys datgymaliad o gân enwog Cyndi Lauper 1983, Time After Time, a thameidiau achlysurol o’r ffilm ias thema Amish o 1985, Witness (gyda Harrison Ford yn y brif ran), ac mae’n archwiliad fel caleidosgop o’r ffaith ei bod hi’n amhosib i ni ddeall ein gilydd yn gyfan gwbl.
Continue reading
Posted on February 25, 2019
Rwyf wedi bod yn casglu recordiau finyl 45 rpm ers blynyddoedd lawer. Yr unig ofyniad sydd gennyf yw fod pob record unigol yn ymwneud yn benodol â diwylliant Cymru. Mae hwn yn archif o ddelweddau coegwych a chaneuon poblogaidd, mae’n ddemocrataidd ac nid yw’n gwrthod unrhyw steil gerddorol. Cafodd y mwyafrif o’r recordiau eu casglu oherwydd y manylion yn ffotograffau clawr y record a’r testun ar y clawr cefn yn hytrach na’r steil neu’r cynnwys cerddorol. Mae’r ffotograffau’n gyfoethog yn eu manylion hanesyddol am bobl a phortreadaeth, tirlun a lle. Mae rhai yn swrrealaidd a rhyfedd. Mae fy ffefrynnau personol yn cynnwys: Y Pelydrau, llon a di-hid, coesau mewn hosanau gyda sgertiau sy’n twyllo’r llygaid yn ymateb i’r camera ar Lyn Trawsfynydd gyda’r gwaith niwclear yno y tu ôl iddynt. Mae Yr Awr, pobl brydferth y 70au mewn gwisgoedd blodeuog yn ymateb i’r camera ar orsaf drenau Abertawe. Y Pedwar Caballero, 4 ffermwr, hogiau drwg Mecsicano, o Gaernarfon “Mae eu record yn dod â sain newydd i’r sîn ’bop’ Gymreig. Dyma gais i uno baledau rhythmig gyda chaneuon y gall rhywun ddawnsio iddynt”.
Mae’r arteffactau hyn mewn deunydd pacio’n greiriau diwylliannol, nodau archeolegol o hanes diwylliannol. Byddai Iorwerth Peate sylfaenydd Sain Ffagan yn cymeradwyo eu statws diwygiedig fel celf werin frodorol. Maent yn gapsiwlau amser wedi’u cadw, celf werin hyderus sy’n datgelu oes o ysu i fynegi hunaniaeth ddiwylliannol ac i ddathlu Cymreictod. Mae hiraeth, y naïf, y diniwed, yr hynod, yr angerdd a dathliad gwerthoedd amatur oll i’w cael yma. Mae’r cofnodion yn llawn o hanes byw gyda bywgraffiad yr unigolion a’r grwpiau, straeon, dyheadau, gobeithion ac ofnau. Maent yn dod yn sbardunau ar gyfer atgofion ac emosiwn. Daw’r casgliad yma’n archif hanesyddol sy’n darlunio cyfnod diwylliannol rhwng Jac a Will (tua 1958) a’r 70au hwyr. Mae’r themâu cerddorol a’r geiriau’n mynegi gwerthoedd diwylliannol y genedl. Mae symudiad diwylliannol yn digwydd o werthoedd cydffurfiaeth; yr hiraethlon a’r sentimental - dathliad o genedl, tir, teulu, cymuned a’r Beibl, i themâu gwleidyddol cryf a hyderus, unigolyddol, hunan-fynegiannol a seicedelig fel y canwyd amdanynt gan Huw Jones, Dafydd Iwan, Heather Jones, Tebot Piws a Meic Stevens. Mae cerddoriaeth yng Nghymru, fel y gwelwn dystiolaeth ohoni yma, yn eang yn ei steil, ei ffurf a’i fynegiant. Mae’n weithgaredd amlddiwylliannol a lluosog gyda Paul Robeson, Iris Williams a Shirley Bassey yn cyfrannu at y traddodiad cerddorol Cymreig. Mae’r gwaith yma’n ymwneud â moderniaeth mewn cyd-destun diwylliannol ac ymylol penodol. Mae Telepops Y Cymro yn ymwneud â Chymru sy’n dod yn fodern ac sy’n ei mynegi ei hun. Dyma esgyrn finyl cenedl yn canu am ei goroesiad a, gyda llais agored, yn ei chanu ei hun i fodolaeth ac i fod yn ymwybodol ohoni ei hun.
Continue reading
Posted on February 25, 2019
Mae’r ffaith y gwneir 80% o gwynion am gamdriniaeth gorfforol gan fenywod Mwslimaidd yn dystiolaeth gref i’r ffaith nad oes digon o addysg na goleuni ynglŷn â’r ffydd Islamaidd ym Mhrydain. At hynny, mae’r gymhareb rhwng disgrifiadau negyddol a rhai positif o Fwslimiaid yn y cyfryngau Prydeinig yn 21:1, un o’r ffactorau sy’n arwain at dwf Islamoffobia.
Mae’r project hwn yn archwilio hunaniaeth gwragedd Mwslimaidd sy’n gorfod amddiffyn eu hunain tra’n addysgu pobl ynglŷn ag Islamoffobia hefyd. Mae dillad pob cyfranogydd yn dangos yr amrywiaeth eang y bydd gwragedd Islamaidd yn dewis eu gwisgo. Yn y cyfryngau, ceir stereoteip o ffordd gyffredinol o wisgo sy’n awgrymu fod pob Mwslim yn gwisgo fel Arab, nad yw, wrth gwrs, yn wir: nid diwylliant mo Islam, ond crefydd.
Creodd Ayesha Khan luniau o fenywod Mwslimaidd pwerus a’u cyfuno ag adeiladau Gorllewinol dylanwadol yng Nghaerdydd, adeiladau penodol sy’n cynrychioli’r Gorllewin o ran diwylliant, hanes, addysg, llywodraeth a’r cyfryngau. Dewisodd y sefydliadau hyn i ddangos, pe bai pob un yn hyrwyddo Islam mewn ffordd bositif ac ar raddfa fawr, y byddai’r effaith yn weladwy dros ben gan fod pob un ohonynt yn destun parch yn ei ffordd ei hun, ac yn denu ei gynulleidfa ei hun.
Wrth wneud ei phortreadau, gwnaeth Khan ddefnydd da o oleuni naturiol i greu cysgodion a goleubwyntiau lle y teimlai bod hynny’n ychwanegu at ei neges. Defnyddir y goleubwyntiau i greu gwawr sanctaidd – ‘Noor’ – ar wyneb pob cyfranogydd, i fynegi eu bod yn sefyll yn erbyn anffafriaeth tra'n dal i ymfalchïo yn eu ffydd. Mae'r cysgodion yn cynrychioli'r tywyllwch o fewn syniadau Islamoffobig a'r ymddygiad sy'n deillio o hynny.
Cytunai pob cyfranogydd â’r datganiad bod Islam wedi cael ei chamddehongli gan lawer o bobl, a bod mwy o angen goleuo pobl a’u haddysgu ynglŷn â gwir neges Islam, sef heddwch.
Continue reading
Posted on February 13, 2019
Ymunwch â ni i glywed amrywiaeth o ferched sy’n gweithio yn y diwydiant clyweledol yn siarad am eu llwyddiannau a sut maent wedi gorchfygu heriau i ddod yn arweinwyr yn eu meysydd. O lwyddo yn y sector technoleg greadigol neu beirianneg sain, i weithio tu ôl i’r camera, mae’r merched hyn wedi dyfalbarhau gyda’r gyrfaoedd y maent wedi’u dewis ac maent yn newid wyneb eu diwydiannau, gan ysbrydoli llawer mwy o bobl i ddilyn eu hesiampl a pharatoi’r ffordd ar gyfer dyfodol gwahanol.
Siaradwyr yn cynnwys:
Celia Jackson - Phrame Collective
Tuula Alajoki & Johanna Havimäki - Whack ‘n’ Bite
Janire Najera - Diffusion 2019 Artist
Alina Kisina - Diffusion 2019 Artist
Cherie Federico - Aesthetica
Laura Drane - Laura Drane Associates, What Next? Cardiff
Kayeligh Mcleod - Creative Cardiff
Hannah Raybould - BAFTA Cymru
Pria Borg-Marks - Shift
Melin Edomwonyi - Creative Mornings
Continue reading
Posted on February 13, 2019
Ar Ddydd Sadwrn 13 Ebrill, byddwn yn rhoi’r sbotolau ar y gymuned greadigol yng Nghaerdydd a’r ardaloedd cyfagos i roi cyfle i artistiaid, cynhyrchwyr, gwneuthurwyr a dylunwyr arddangos eu gwaith, gwerthu eu cynhyrchion a rhwydweithio o fewn ein byd creadigol bywiog. Ymunwch â ni yn Shift, lle creadigol newydd yng nghanol y ddinas o dan ganolfan siopa Capitol. Bydd manylion yr arddangoswyr a’r sgyrsiau’n dilyn ar ein gwefan.
Am 3 o'r gloch, bydd Caerdydd Creadigol yn cynnal eu digwyddiad Dangos a Dweud , digwyddiad chwarterol sy'n rhoi llwyfan i'r amrywiaeth gyffrous o bobl a phrosiectau creadigol yn y ddinas.
Continue reading
Posted on February 13, 2019
Yn sgil llwyddiant y project yn 2015 a 2017, bydd Ffotogallery yn ail-lansio Ffotomatic i’r Bobl ar gyfer Diffusion: Gŵyl Ffotograffiaeth Ryngwladol Caerdydd o’r 1-30 Ebrill 2019.
Addasodd y project Ffotomatig chwe pheiriant gwerthu i’r diben a’u gosod o gwmpas y ddinas. Mae pob peiriant yn gwerthu cartonau argraffiad-cyfyngedig, casgladwy sy’n dal miniaduron celf a thrysorau bach eraill.
Bydd y peiriannau mewn gwahanol leoliadau ledled y ddinas, yn cynnwys Canolfan y Mileniwm, Canolfan Chapter a chanolbwynt yr ŵyl yn Shift, Heol y Frenhines. Fedrwch chi ddod o hyd i bob un?
Rhannwch eich darganfyddiadau ar-lein gyda #ffotomatic
Continue reading
Posted on February 13, 2019
Mae Arr. for a Scene yn dogfennu dau artist Foley pan oeddent yn cynhyrchu seiniau ar gyfer un o’r golygfeydd ffilm enwocaf yn hanes ffilm (golygfa’r gawod yn Psycho Alfred Hitchcock, 1960). Mae’r perfformiad yma wedi’i ddogfennu ar ffilm 35 mm. Nid yw golygfa wreiddiol y ffilm i’w gweld ac mae’r gwyliwr yn gweld dim byd ond yr artistiaid Foley yn creu effeithiau sain ar gyfer yr olygfa, megis y sŵn traed, y gawod a drws yn cau. Mae’r ffilm yn archwilio’r ffordd y mae seiniau’n cael eu hadeiladu i’w defnyddio yn y sinema a beth sy’n digwydd pan fydd strwythur ffilm yn cael ei ddatgymalu’n rhannau.
2017, ffilm 35 mm wedi’i drosglwyddo i 4K/HD, 5 munud 18 eiliad, stereo / 5.1
Continue reading
Posted on February 11, 2019
Timeshifts
Cuddio’r gwrthsafol – troi’r byrhoedlog yn weladwy. Egwyddor newydd ar gyfer cynrychioli amser mewn ffotograffiaeth. Mae cyfres Timeshifts yn defnyddio egwyddor nodweddiadol ffotograffig i gynrychioli amser mewn ffordd newydd; lle mae’r negatif a’r positif yn cyd-niwtraleiddio’u hunain mewn lliw, disgleirdeb a chyferbyniad. Mae Timeshifts yn wahanol i ddulliau ffotograffig eraill fel cymylu symudiad (motion blur) neu ddilyniannu (sequence) gan mai dim ond y newid mewn amser y mae’n ei ddangos. Mae holl elfennau eraill y ddelwedd yn niwtraleiddio i 50% llwyd. Fel y mae dau bwynt gwahanol yn ein galluogi i weld gofod, mae troslunio dwy ennyd o amser yn dangos gofod o amser.
Before the Content
Mae Before The Content yn gyfres o ffotograffau heb gamera. Ond, fel ffotograffau, maent yn cynnig ciplun. Maen nhw’n dangos yr ennyd fer honno yn natblygiad gwefan lle gellir gweld yr adeiledd, cyn i’r cynnwys gael ei lwytho. Ar adeg pan mae cynnwys a negeseuon yn ein llethu, mae’r gweithiau yma’n cynnig hoe fach i ni oedi ac agor ein hysbryd a’n dirnadaeth.
Derbyniad Agoriadol
Gwener 5 Ebrill, 3 - 4pm
Continue reading
Posted on February 11, 2019
Yn sgil ennill cystadleuaeth Eurovision yn Brighton yn 1974, daeth ABBA yn symbol o Sweden ledled Ewrop. Yn ifanc, yn benfelyn ac ychydig yn swil...roedden nhw’n sêr yn syth.
Cafodd Lisa Brunzell ei geni a’i magu yn Sweden. Ond pan ddaeth i fyw i’r Deyrnas Unedig, fe ffeindiodd bod olion y llwyddiant pop Swedaidd yna’n dal i’w gweld yma, yn cael eu trosi i sefyllfa a diwylliant newydd gan yr holl fandiau efelychu a ysbrydolwyd gan y band pop chwedlonol.
Mae’r gweithiau yma gan Lisa Brunzell yn archwilio sut y mae artistiaid efelychu yn creu eu dehongliadau eu hunain o’r ABBA gwreiddiol. Mae atseiniau amlwg o aelodau gwreiddiol y band yn y ffotograffau, ond maent hefyd yn dangos gwir bersonoliaethau’r efelychwyr. Mae’r artist efelychu’n hongian rhywle rhwng y perfformio a realiti. Nid nhw eu hunain sydd yn y lluniau yma, ond nid nhw yw’r cymeriadau y maent yn eu cyflwyno chwaith. Rhywsut, mae’r ddwy elfen yn cyd-fodoli.
Continue reading
Posted on February 08, 2019
Flynyddoedd yn ôl, pan ddiflannodd y diwydiannau olaf o gymoedd y de-ddwyrain cafodd Martha ei bwrw gan don ddwys o ddicter. “...ro’dd e’n ofnadwy gweld yr holl swyddi yna’n diflannu. Ac yn sydyn, mae cân yn fy mhen - a dyna le ro’n i, lan yn y cae yn mynd â’r cŵn am dro, a do’dd neb arall o gwmpas, felly dyma fi’n dechrau canu ar dop fy llais”.
Fe ruthrodd hi adre i gofnodi’r cyfan ar bapur.
Fe roddodd hi deitl i’r gân, sef ‘Cân y Teulu’; teyrnged i’w chymuned a oedd yn mynd drwy un o gyfnodau anoddaf ei hanes. Roedd Martha a’i gŵr George wedi tanio. Bu’r ysfa i helpu eu cymuned yn sbardun iddyn nhw sgwennu mwy o ganeuon gyda’i gilydd. Yn raddol, fe wnaethon nhw greu drama gerdd: Stori am deulu, yn delio â sefyllfa gymdeithasol, wleidyddol ac economaidd y cyfnod hwnnw.
Rai blynyddoedd yn ddiweddarach, yn 2015, fe symudodd ffotograffydd o’r Ariannin i Abertyleri. Mae e’n digwydd cwrdd â Martha a mynd i’w thŷ am baned. Yn ystod eu sgwrs, mae hi’n sôn am y ddrama gerdd a sgwennodd, ond na chafodd ei llwyfannu erioed. Mae’r caneuon yn cydio yn ei ddychymyg. O hynny ymlaen, mae e’n meddwl yn gyson am sut i rannu caneuon Martha a George gyda mwy o bobl.
Mae Sebastian Bruno yn cyflwyno…
Caneuon o ddrama gerdd “Y Teulu”, gan George a Martha Lowman. Profiad trwythol sy’n cyfuno gosodwaith, ffotograffiaeth a thechnoleg rithwir.
Continue reading
Posted on February 07, 2019
Mae capeli anghydffurfwyr cyfoes yng Nghymru’n dal i chwarae rhan bwysig yn eu cymunedau. Er bod pobl yn addoli llai heddiw nag oeddent rai degawdau yn ôl, mae nifer sylweddol o’r adeiladau hyn i’w cael o hyd mewn trefgorddau, pentrefi a threfi ledled Cymru.
Mae capeli sydd ag enwau megis Seion, Nasareth a Thabernacl yn dod â mannau Beiblaidd i’r meddwl ond maent hefyd yn creu darluniau o’r diwygiadau crefyddol mawrion yng Nghymru. Mae capeli eraill sydd ag enwau megis Harmoni, Roc a Gospel, yn cyfeirio fwy at y traddodiadau llafar, sy’n cynnwys pregethu carismatig a chanu emynau’n gydwybodol fel cynulleidfa. Yn fwy na dim, cydnabyddir bod llawer o gapeli anghydffurfwyr wedi chwarae rôl allweddol yng ngoroesiad yr iaith Gymraeg ac roeddent yn bwysig i barhad bywyd diwylliannol Cymru.
Heddiw mae rhai capeli’n parhau â’u gweithgareddau defodol crefyddol ac angladdol, tra bo eraill wedi eu troi’n adeiladau seciwlar. Mae acwsteg ragorol yr adeiladau hyn yn golygu bod capeli’n fannau delfrydol i roi perfformiad cerddorol, fel stiwdios recordio ac fel man i gôr ymarfer. Mae eu pensaernïaeth syml hefyd yn eu gwneud nhw’n boblogaidd i’w defnyddio’n fasnachol ac i’w troi’n gartrefi preifat.
Continue reading
Posted on February 07, 2019
Mae Freya Dooley yn gweithio gyda phosibiliadau a chyfyngiadau’r llais byw a’r llais wedi’i recordio. Mae ganddi ddiddordeb yn y cyd-brofiad o wrando a’r ymyriadau, y gwyriadau a’r mannau lle gallai pethau ddechrau mynd o’u lle. Mae’r gwaith clyweledol aml-sgrin newydd yma’n cychwyn gyda’r stori fer ‘A Literary Nightmare’, stori gan Mark Twain o 1876, lle mae’r prif gymeriad wedi ei lethu gan gân sy’n troi o amgylch ei feddwl. Yr unig ffordd o gael gwared â’r gân o’i ben yw ei phasio ymlaen i gyfaill sydd, yn ei dro, yn ei phasio ymlaen i’w gynulleidfa. Mae The song settles inside of the body it borrows yn archwilio sut y gall cerddoriaeth effeithio’r meddwl, heintio tasgau pob dydd a difwyno ein profiad o’r byd o’n cwmpas; y ffordd mae’r mewnol a’r allanol yn gallu effeithio a dylanwadu ar ei gilydd.
Continue reading
Posted on February 07, 2019
Ein thema ar gyfer Diffusion 2019 yw Sain a Golwg. Mae’r arddangosfa yng Nghanolfan Mileniwm Cymru’n edrych ar ddatblygiadau mewn recordio a chynhyrchu cerddoriaeth a sut mae cynulleidfaoedd yn ei fwynhau – o’r dechnoleg a ddefnyddiwn i recordio sain am y tro cyntaf, albymau, senglau a ffurfiau newydd o’i ddosbarthu sydd wedi galluogi i gerddoriaeth ddod yn rhan o’n bywydau pob dydd. O’r ffansîn i’r fideo cerdd, o’r bandiau teyrnged i brofiadau realiti rhithwir, dewch i archwilio ein treftadaeth gerddorol amrywiol.
Llun: Division of Work and Industry, National Museum of American History, Smithsonian Institution
Continue reading
Posted on February 07, 2019
Wrth wraidd Intimate Distance mae syniadau am sut yr ydym yn cysylltu a chyfathrebu â’n gilydd. Wrth gwrs, mae iaith, boed hynny’n eiriol neu ystumiol, yn rhan hanfodol o hyn. Cafodd ‘Intimate Distance’ ei greu fel gosodwaith awyr agored, gan gyfuno ‘iaith’ sŵn adar gyda deialogau a disgyblaethau gwahanol iawn sgiliau crefftwaith coed traddodiadol a thechnoleg newydd. Ar un wedd, mae’n drosiad cerfluniol o’r teimladau sy’n corddi pan fo’r pethau yr ydym yn eu crefu mewn bywyd yn dechrau ein gorsymbylu a mynd yn drech na ni.
Mae Intimate Distance yn cynnwys cyfres o dai adar cain o bren castan melys ar bolion copr. Tu fewn i bob tŷ, mae synhwyrydd uwchsonig, cyfrifiadur Raspberry Pi a seinydd. Mae’r synhwyryddion uwch sonig yn mesur pellter ac wrth i rywun neu rywbeth ddynesu, mae lefel sain canu’r adar yn cynyddu’n unol â hynny.
Yn yr un modd, wrth i wyliwr ddynesu at y tai adar i weld beth sy’n digwydd, mae lefel sain canu’r adar yn cynyddu – efallai hyd bwynt lle mae’r gwyliwr yn cael ei lethu gan yr union beth a’i sbardunodd i ddynesu yn y lle cyntaf.
Continue reading
Posted on February 07, 2019
Mae dylanwad pync yn dal yn fyw heddiw. Bu effaith pync ar Zara Mader yn sbardun iddi greu prosiect yn seiliedig ar y gantores a’r sgwennwr caneuon, Poly Styrene, o’r band pync X-ray Spex. Gan fod Poly Styrene wedi creu cymaint o argraff ar Mader roedd hi eisiau ffeindio os oedd hi wedi cael dylanwad tebyg ar fenywod eraill. Roedd y ffordd y dewisodd hi ddehongli estheteg pync a’i lliw yn golygu ei bod hi’n ffigwr unigryw yn niwylliant pync.
Mae cynrychiolaeth yn ystyriaeth hollbwysig i’r rhan fwyaf o bobl. Fel menyw hil gymysg â diddordeb mewn pync, fe ddangosodd Poly Styrene fod pob math o bosibiliadau’n agored i Zara Mader; y gallai ddilyn gyrfa ym myd ffotograffiaeth lle nad oedd llawer o bobl oedd yn edrych yr un peth â hi. Mae’n ddiddorol nodi bod Styrene a Mader yn rhannu’r un ddwy hil: Prydeinig a Somali.
Mae’n hawdd diystyru effaith a dylanwad menywod ym myd cerddoriaeth. O’u cymharu â dynion, mae profiadau menywod yn y diwydiant cerddoriaeth yn golygu bod yn rhaid iddynt weithio’n galetach cyn cael eu cymryd o ddifrif. Roedd Poly Styrene yn benderfynol o gael ei chymryd o ddifrif, o wrthod gadael i’r ffaith ei bod yn fenyw weithio yn ei herbyn na gadael i’r diwydiant ei rhywioli. Roedd hi’n arloesol. Fe dorrodd dir newydd. Roedd hi’n sgwennwr caneuon gwych ac yn ysbrydoliaeth i lawer o bobl.
Cafodd lleoliadau’r delweddau yma eu dewis yn benodol oherwydd bod ganddynt gysylltiad â cherddoriaeth. Roedd yr artist yn teimlo bod y cyd-destun hwnnw’n bwysig i’r prosiect.
Mae hi am ddiolch i holl gyfranogwyr y prosiect am rannu eu profiadau a chymryd rhan.
Continue reading
Posted on February 07, 2019
Mae Children of Vision yn brosiect parhaus sy’n deillio o berthynas ers tro byd rhwng yr artist ag Ysgol Gelf Arbennig Kiev Rhif 11 ar gyfer Plant â Nam ar eu Golwg ac Anableddau Eraill. Mae agwedd flaengar y sefydliad yma at greadigrwydd ac anabledd yn nodedig. Yma, mae’r plant yn cael cyfle i oresgyn eu hanableddau a gadael cyfyngiadau eu cefndiroedd cymdeithasol a datblygu’n bobl broffesiynol annibynnol - gan gynnwys bod yn artistiaid, cerddorion, cynllunwyr, penseiri tirlun ac athrawon llwyddiannus. Mae Alina’n defnyddio ffotograffiaeth i gysylltu ag anian ddynol y plant. Mae hi’n dal golwg pob plentyn heb ffocysu’n benodol ar y sialensiau unigryw y mae’n eu hwynebu, ond heb eu hanwybyddu chwaith. Wrth weithio fel hyn mae hi hefyd, o fwriad, yn edrych y tu hwnt i bortreadau ystrydebol o Ddwyrain Ewrop.
Mae’r bwlch sydd wedi agor rhwng y breintiedig a’r rheiny sy’n cael eu cau allan yn bwnc llosg ym myd y celfyddydau a sector ddiwylliannol y Deyrnas Unedig; ar adeg pan mae’r celfyddydau’n diflannu o’r cwricwlwm a drws y celfyddydau a chreadigrwydd yn cael ei gau i nifer cynyddol o bobl, mae Ysgol Gelf Arbennig Kiev yn grymuso plant trwy greadigrwydd. O gerddoriaeth i osod blodau, dawns, crochenwaith a phaentio, mae’r plant yn cael eu hannog i ddarganfod eu diddordebau unigryw eu hunain. Caiff hynny ei ddefnyddio wrth feithrin eu hyder, dulliau meddwl haniaethol, y côf, sgiliau cymdeithasol ac arfau allweddol eraill sy’n eu helpu i oresgyn pob math o heriau.
“...yn ei chyfres o luniau, Children of Vision, mae Alina Kisina bellach yn defnyddio arddull sy’n cyfuno’r dogfennol â chelf gain. Ers gwirfoddoli yn yr ysgol yn 2003, mae Alina wedi gweithio i godi arian yno’n gyson. Fe ddychwelodd yn 2016 ac yn 2017 i weithio ar astudiaeth fanwl o’r plant a’r berthynas rhyngddyn nhw, yr athrawon a’r staff cynorthwyol. Mae ei ffotograffau o’r gyfres yma’n ein helpu i weld plant sydd eu hunain yn cael trafferth gweld ond sy’n pefrio wrth rannu eu cynhesrwydd afieithus a’u cyfeillgarwch. Mae’r lluniau yma’n dangos eu penderfyniad cadarn a thawel wrth ymroi i greadigrwydd a dysgu sy’n eu helpu i esgyn y tu hwnt i’w hanableddau...
- Yr Athro Raoul Eshelman
Continue reading
Posted on January 24, 2019
Yn ein harchifau yr ydym yn cadw a chasglu ein straeon – y personol a’r Cenedlaethol; boed hynny ar bapur, silindr Edison, shellac, feinil, tâp, ffilm neu ddisg galed, y rhain yw gweadau’r côf, hanes, diwylliant, perthyn a’n hunaniaeth.
Mae Atgyfodi yn cyflwyno lleisiau a recordiadau coll o archifau sain Amgueddfa Werin Cymru yn Sain Ffagan trwy gyfrwng gosodweithiau trwythol sy’n cyfuno sain amgylchynol, delweddau a ffeindiwyd a rhai a ffilmiwyd yn benodol. Wrth blethu’r rhain gyda chyfansoddiadau cerddorol cyfoes, caiff y lleisiau a’r recordiadau, a’r hyn y maent yn ei gynrychioli, eu dychwelyd i gôf y genedl. Caiff y caneuon a’r straeon eu gweu fel ‘collage’ gyda recordiadau maes o safleoedd gwreiddiol adeiladau’r amgueddfa a recordiadau gwreiddiol o leisiau pobl a llefydd eiconig neu leisiau o bwysigrwydd symbolaidd fel Tyrone O’Sullivan o Bwll Glo Tower a’r ffermwr Arthur Morris Roberts, a welodd foddi Capel Celyn pan roedd yn fachgen ifanc.
Mae Atgyfodi yn bwrw golau ar gyfoeth traddodiad cerddorol Cymru: Caneuon a straeon sy’n cael eu canu a’u hadrodd gan bobl go iawn. Fe ddylanwadodd gweadau a seiniau’r bywydau yma ar arddull gyfansoddiadol y gerddoriaeth a phroses greu’r prosiect. Wrth galon y cyfan roedd yr alawon traddodiadol, y farddoniaeth a rhythmau soniarus yr iaith lafar.
Wrth greu cyfansoddiadau mewn ymateb i hyn ac yn ffrâm gerddorol o’u cwmpas, mae’r caneuon gwreiddiol yn datblygu’n felodig a harmonig. Mae lle yma hefyd i gerddorion cyfoes sy’n defnyddio offerynnau traddodiadol Cymreig i ail-ddehongli a byrfyfyrio. Wrth hynny, mae’r ‘cylch’ creadigol yn cael ei gwblhau gan gynnig ail-ddehongliad o hen draddodiadau.
Cyflwynir Atgyfodi gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, perfformiadau ar y crwth, y pibgorn, y ffidil a’r chwiban gan Cass Meurig a Patrick Rimes, a lluniau a delweddau a ffilmiwyd yn arbennig gan Huw Talfryn Walters. Bydd y cyfanwaith gorffenedig, gan gynnwys y deunydd ffilm crai a’r recordiadau maes, yn cael cartref parhaol yn archif Amgueddfa Werin Sain Ffagan.
Continue reading
Posted on January 24, 2019
Menter gydweithredol gan ffotograffwyr benywaidd profiadol a rhai sy’n dechrau ennill eu plwyf yw PHRAME. Hon yw sioe gyntaf y fenter ac fe gafodd ei churadu’n arbennig ar gyfer Diffusion 2109. Er bod gweithiau’r arddangosfa’n cyflwyno rhychwant cyfoethog o wahanol arddulliau a chynwys, mae yma strategaethau a dulliau gweithio cyffredin hefyd: Mae nifer o’r artistiaid yn dewis dogfennu’r byd o’u cwmpas; mae nifer hefyd yn cyflwyno eu straeon eu hunain yn ogystal ag ymgysylltu a rhyngweithio i gasglu straeon gan bobl eraill. Hefyd, mae gogwydd pendant yma at fateroliaeth prosesau ffotograffiaeth - yn benodol, prosesau analog sy’n cynnwys defnyddio camerau twll-pin, negatifau papur a phroses cyanotype.
Yn baradocsaidd, mae rhai o’r artistiaid yn rhoi’r argraff nad yw cyfryngau ffotograffiaeth rhywsut yn ddigonol wrth geisio adlewyrchu a mynegi cymlethdodau profiadau bywyd neu’r byd yn gyffredinol. Amlygir hyn gan y defnydd o wahanol gyfryngau a thestun i greu gweithiau cymleth a haenog sy’n gwthio ffiniau diffiniadau confensiynol o ffotograffiaeth.
Mae natur ryngweithiol arddulliau ac ymarfer artistiaid PHRAME, fel unigolion a chydweithfa artistig, yn adlewyrchu theori Nicolas Bourriaud am estheteg berthynol – lle caiff yr ‘artist’ neu’r cyfryngwr ei ystyried yn gatalydd i ryngweithio dynol yn hytrach na bod yn ganolbwynt i’r gwaith. Mae aelodau PHRAME wedi ffeindio bod defnyddio lleoliadau angonfensiynol fel bar coffi, siop wag neu hen eglwys sydd wedi ei haddasu fel mannau cymdeithasol yn cynnig amgylchiadau cynhwysol a chyffrous i archwilio rhai o ystyriaethau allweddol y sgwrs ffotograffig.
Artistiaid
Lorna Cabble
Kate Mercer / Dai Howell
Ayesha Khan
Tess Seymour
Faye Lavery-Griffiths
Tracey Paddison
Savanna Dumelow
Faye Chamberlain
Megan Winstone
Sarah Hayton
Molly Caenwyn
Jane Nesbitt
Continue reading
Posted on January 24, 2019
Offeryn cerdd sy’n galluogi creu delweddau symudol mewn mannau penodol yw’r ‘Piano Gweledol’. Mae’n offeryn unigryw; yn ffrwyth dychymyg a gwaith y ffotograffydd a’r artist gosodweithiau golau, Kurt Laurenz Theinert, ar y cyd â’r cynllunwyr meddalwedd Roland Blach a Philip Rahlenbeck.
Wrth ddefnyddio allweddell MIDI mae modd cynhyrchu patrymau graffig amrywiol y gellir eu taflunio’n ddigidol ar sgrin neu sgriniau. Nid clipiau wedi’u recordio ymlaen llaw sy’n cynhyrchu’r ‘lluniau golau’ deinamig yma (fel sy’n digwydd gyda meddalwedd a chaledwedd VJ). Yn hytrach, mae pob eiliad o’r perfformiad yn cael ei chwarae a’i drawsgyweirio’n fyw, yn y fan a’r lle, trwy gyfrwng yr allweddell a’r pedalau.
Yn wreiddiol, byddai Theinert yn taflunio ei ‘luniau golau’ yn syth ar sgrîn. Ond wrth ehangu’r taflunio i 360° mae bellach yn gallu agor ac ehangu profiad gweledol y gynulleidfa i dri dimensiwn. Mae dwysau’r profiad gweledol fel hyn yn creu ias aruthrol: Mae’r ymylon tywyll sy’n diffinio’r man arddangos yn diflannu ac yn eu lle ceir strwythurau mawr a symudol o olau. Caiff y gwyliwr ei drwytho mewn pydysawd newydd sbon o linellau symudol a meysydd mawr o liw. Roedd y tafluniad ar un o’r sgriniau’n creu atseiniau cryf o baentiadau adeileddol a symudiadau artistig modernaidd eraill tra fo’r tafluniadau 360° yn cyffroi pob math o gyffelybiaethau pensaernïol a thechnegol.
Maent yn deffro côf am efelychiadau 3D cyfrifiadurol a phelydrau laser. Mae cyfansoddiad cymesur y tafluniadau’n creu siapau crisialog sy’n dwyn egwyddorion dylunio Art-Deco neu gynlluniau iwtopaidd pensaerniaeth fynegiadol i gôf. Ar yr un pryd, mae’r lliwiau seicadelig yn atseinio estheteg y Chwedegau.
Yma, mae ffurf a chynnwys yn un. Er bod perfformiadau’r ‘piano gweledol’ yn archwilio ymarfer artistig broffesiynol gyfoes trwy gyfrwng haniaethol a byrhoedlog y golau, maent hefyd yn perthyn yn agos i fyd a genre adloniant ‘go iawn’.
Continue reading
Posted on January 24, 2019
Mae’r gyfres Foley Objects yn chwarae gêm o synesthesia. Mae’r gwaith yn cynnwys lluniau o wrthrychau gwahanol iawn i’w gilydd. Mae gan y rhain benawdau sy’n cynnig diffiniadau sy’n ymddangos yn hollol ddigyswllt â’r gwrthrychau. Ar ôl astudio’r llun, daw’r syllwr i ddeall bod y geiriau’n cyfeirio at y sain a gynhyrchir gan y gwrthrychau yn y lluniau, eu bod nhw’n rhoi cyfeiriad meddyliol i ni at brofiad sydd heb gysylltiad o gwbl â’r llun.
Mae Kina wedi casglu gwrthrychau gan amrywiol gynllunwyr sain ac artistiaid Foley. Gallwch ystyried y casgliad hwn o luniau’n archif o seiniau, yn ogystal â dawns rhwng y dogfennu a chwarae disynnwyr.
Derbyniad Agoriadol
Gwener 5 Ebrill, 3 - 4pm
Continue reading
Posted on January 24, 2019
Arddangosfa sy’n cyflwyno darlun o ddiwydiant glo Cymru trwy gyfrwng wynebau’r gweithlu yw The Coal Face. Yn ei hanterth diwydiannol, Cymru oedd prif gynhyrchydd glo’r byd ac roedd dros 600 o byllau glo yn Ne Cymru. Heddiw, dim ond olion prin a chreithiau sydd ar ôl i dystio i’n hanes diwydiannol diweddar. Mae llwch y glo wedi mynd. Mae’r pyllau wedi cau. Mae’r afonydd a fu’n licris du bellach yn groyw ac mae’r cymoedd yn wyrdd. Erbyn heddiw mae’r gweithlu ar wasgar ac yn y cysgodion; yn henach, yn ddoethach ond yn llesgáu hefyd. Wynebau’r dynion yma yw’r allwedd i’n gorffennol diwydiannol. Daeth glowyr o gymoedd y Rhondda, Rhymni, Taf a’r Ebbw i gymryd rhan yn y sesiynau stiwdio dwys a arweinodd at greu’r portreadau 3-D yma. Cynhaliwyd y sesiynnau i gyfeiliant recordiadau gan y cyfansoddwr John Rea o leisiau’r gweithwyr a seiniau eu hardaloedd.
Er mwyn creu’r delweddau 3-D, roedd yn rhaid i bob un yn ei dro eistedd yn hollol lonydd tra roedd camerau cydraniad uchel ar reiliau yn eu sganio (tynnu ffotograffau). Mae’r broses yn creu tua 200 o ddelweddau sy’n cael eu bwydo drwy feddalwedd ffotogrametreg. Mae’r feddalwedd yn prosesu’r pellteroedd cymharol rhwng gwahanol bwyntiau a chyfeirnodau i greu ‘cwmwl dwys’ tri dimensiwn o filiynau o gyfeirnodau. Wedi hynny, caiff mesh dwysedd uchel ei greu ac yna mae gorchudd ffotograffig arbennig yn cael ei osod drosto. Mae’r ddelwedd 3-D orffenedig yn gwmwl o fesuriadau sy’n atseinio’r ddelwedd wreiddiol.
Continue reading
Posted on January 24, 2019
Tynnodd Stevens y set wreiddiol o ffotograffau o systemau sain Notting Hill yn 2004. Fe gododd yn gynnar a cherdded ar hyd y strydoedd cyn i holl ryfeddod dynol y carnifal gyrraedd. Roedd wedi bod yn byw yng Ngorllewin Llundain ers symud i’r brifddinas rhyw 25 mlynedd ynghynt, felly roedd e’n adnabod y strydoedd yn dda – yn rhinwedd ei brofiadau ei hunan a thrwy luniau Roger Mayne, ffotograffydd o’r cyfnod wedi’r rhyfel, a wnaeth argraff arno pan roedd yn blentyn.
Er mwyn ariannu ei addysg brifysgol roedd Stevens yn gweithio gefn llwyfan gyda bandiau yng Ngorllewin Canoldir Lloegr, a dyna le datblygodd ei angerdd am staciau seinyddion. Mae ôl llaw crefftwyr go iawn ar y systemau hardd sydd i’w gweld ar y strydoedd adeg y carnifal. Wrth saethu mor gynnar yn y bore, mae ffotograffau Stevens yn tynnu’r systemau sain allan o’u cyd-destun a’u cyflwyno fel cyfres o ffurfiau cerfluniol unigol. Maen nhw’n gosod eu stamp eu hunain ar y strydoedd gwag. Maen nhw’n estron ac weithiau’n fygythiol, ond wastad yn ddiddorol: Meini hirion modern, cylchoedd cerrig newydd, mannau addoli. Rhain yw cerrig sylfaen y Carnifal.
Cynhaliwyd Carnifal Notting Hill am y tro cyntaf yn 1964 – yn atsain o draddodiadau carnifal y Caribî yn y 19eg ganrif. Yn y blynyddoedd cynnar, roedd yn cynnig llwyfan i fandiau drymiau dur lleol ond erbyn heddiw mae’r carnifal wedi tyfu i gynnwys amrywiaeth eang o gerddoriaeth a diwylliant Affricanaidd-Caribiaidd a nifer o genres eraill sy’n cynrychioli cyfoeth o draddodiadau ac arddulliau cerddorol o’r chwedegau i’r presennol.
Continue reading
Posted on January 24, 2019
Prosiect celf aml-ddisgyblaeth yw Altered Ego sy’n archwilio syniadau am bwy ydym ni mewn gwirionedd, a sut yr ydym yn cyflwyno hynny i’r byd. Mae’n archwilio ein alter-ego; ein syniadau am hunan-gyflwyniad, y gwahanol fyrdd sydd gennym o gyflwyno’n hunain mewn gwahanol gyd-destunau, a’r elfennau hynny o ymddygiad dynol a ystyrir yn ‘normal’ sy’n cael eu dwysáu gan anabledd.
Sail y prosiect yw’r syniad ein bod ni i gyd yn creu ymdeimlad o’n hunan a phwy ydym ni, a’n bod ni’n ail-greu ac addasu hynny mewn gwahanol sefyllfaoedd. Trwy gyfres o ymyrraethau artistig mae’r prosiect yn archwilio’r ffyrdd yr ydym yn cyflwyno fersiynau gwahanol ohonom ni’n hunain gyda graddau amrywiol o wirionedd a chywirdeb, ac weithiau, celwydd a thwyll.
Mae Altered Ego yn ceisio meithrin model arbrofol i fynd i’r afael â materion sy’n greiddiol i’r profiad o fod yn anabl, ond sydd hefyd yn berthnasol i gymdeithas drwyddi draw: y gwahanol ffyrdd yr ydym yn addasu ein hunain er mwyn bodloni agweddau a chanfyddiadau rhag amodol; a dulliau creadigol i rymuso unigolion fel y gallant herio allgáu cymdeithasol ac ynysigrwydd.
Aelodau Altered Ego yw Sara Christova, William Craig, Paul Leyland, Zosia Krasnowolska, Rachael Smith, a Rosie Swan. Mae’r prosiect wedi bod yn gyfrwng i’r grŵp yma o artistiaid anabl ac artistiaid heb anabledd, actorion, sgwenwyr a cherddorion i ail-greu eu hunain. Ry’n ni’n eu harfogi i greu personolaethau newydd, sy’n amrywio o...Adam Lane, eilyn pop a seren ddisglair sydd wedi diflannu o lygaid y cyhoedd, i...Arglwyddn Spittleash, Barwn, playboy a swagrwr rhyngwladol, ysbïwr ac aristocrat, i...Lily-May, cantores ryngwladol gythryblus. Wrth ddefnyddio ffotograffiaeth, fideo, sain, paentiadau a lluniau, maen nhw’n dogfennu bywydau’r tri alter ego yma wrth iddynt ymgynnull ym Maenordy Ashbrittle, hen gartref teuluol Arglwydd Spittleash.
Mae Altered Ego yn derbyn nawdd ariannol gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Diffusion 2019. Mae’n bartneriaeth rhwng Ffotogallery, Gŵyl Ffotograffiaeth Ryngwladol Diffusion, Oriel MADE, Celfyddydau Anabledd Cymru, Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd, Canolfan Ysgrifennu TRACE ym Mhrifysgol Bath Spa, Cwrt Insole a’r artistiaid.
Continue reading
Posted on January 24, 2019
Yn dilyn eu ffilm fulldome gwobrwyedig, Liminality, mae Matt Wright a Janire Nájera, sy’n gweithio yng Nghaerdydd, wedi creu cywaith creadigol i drwytho cynulleidfaoedd yng ngherddoriaeth Slowly Rolling Camera. Mae Juniper, a gomisiynwyd gan Ffotogallery i’w ddangos am y tro cyntaf yng ngŵyl Diffusion 2019, yn archwilio sut y mae sain a delwedd symudol yn cydblethu mewn perfformiad byw. Fel rhan o’r sioe unigryw yma bydd Slowly Rolling Camera yn perfformio eu trydydd albwm, Juniper, o’i dechrau i’w diwedd gyda sgôr weledol hynod a grewyd gan 4Pi. Bydd grŵfs jazz eang, trip-hop a seinluniau sinematig ‘Juniper’ yn anwesu aelodau’r gynulleidfa wrth iddynt gael eu cludo i amgylchfydoedd diffaith a phrysur yn y DU, Norwy a’r Ffindir.
Juniper yw trydydd albwm Slowly Rolling Camera o Gaerdydd – casgliad o weithiau hyderus a gogoneddus sydd wedi ennill clod beirniadol. Dan adain Dave Stapleton o label Edition, y cynhyrchydd Deri Roberts a’r drymiwr Elliot Bennett, mae ‘Juniper’ yn gyfuniad o grŵfs jazz eang a seinluniau sinematig cyfoethog sy’n dynodi cyfnod newydd yn hanes y grŵp a sefydlu gwreiddiau offerynnol newydd wrth dynnu tîm o offerynwyr deinamig at ei gilydd – Stuart McCallum (cyn gitarydd Cinematic Orchestra), y basydd Aidan Thorne a’r chwaraewr sacsoffon o wlad Belg, Nicolas Kummert.
Dydd Gwener 5 Ebrill, 1 - 2.30pm
Perfformiad arbennig i ysgolion a cholegau (Oed 12+) - cysylltwch â Catherine McKeag [email protected]
Continue reading
Posted on January 24, 2019
“Yn 2008, fe ddes ar draws graffiti ar wal ger lle ro’n i’n byw yng Nghaerdydd. ‘Pwyliaid, Ewch Adre’. Dyna oedd y neges. Bues i’n pendroni dros y peth am sbel. Ro’n i ‘chydig yn ansicr – a ddylwn i hel fy mhac i rywle arall neu ai dyma lle’r oedd fy nghartref. Yn 2016 â refferendwm Brexit yn rhwygo Prydain a thon o genedlaetholdeb eithafol yn sgubo ar draws Ewrop, roedd rhywbeth llawer mwy bygythiol am y slogan yna. Roedd yn rhaid i fi ymateb iddo. Yn llythrenol”.
Ym mis Ebrill 2018, fe gychwynodd Michal Iwanowski ar siwrne. Taith gerdded 1900km rhwng ei ddau gartref, Cymru a Gwlad Pwyl; gyda phasbort Prydeinig yn un llaw, pasbort Pwylaidd yn y llall. Fe dynnodd linell syth ar y map, ac ar ôl cael gafael mewn pâr o sgidiau cerdded cryf, fe gamodd allan o’i fflat yng Nghaerdydd, troi tua’r dwyrain, ac i ffwrdd â fe: Cymru. Lloegr. Ffrainc. Gwlad Belg. Yr Iseldiroedd. Yr Almaen. Y Weriniaeth Tsiec. Gwlad Pwyl. Ei fwriad oedd holi pobl ar hyd y ffordd am ystyr ‘cartref’. Beth mae hynny’n ei olygu?
Fe gymerodd y siwrne 105 o ddyddiau o’i dechrau i’w diwedd.
Er bod Michal wedi rhagweld gwrthdaro, eithafiaeth ac eithafion, a phob math o broblemau lletchwith, nid dyna fu hanes ei gyfarfyddiadau ar hyd y ffordd. Yn hytrach, fe gafodd atebion personol ac ystyrlon i’w gwestiwn; ymatebion rhwng cyd-ddyn a chyd-ddyn yn hytrach na sgyrsiau rhwng dinesydd â thramorwr. ‘Bron yn ddi-eithriad, fe fyddai pob un a holais yn rhoi ei law ar ei chalon neu ar ei galon wrth ddangos i fi lle’r oedd ‘gartre’. Roedd sawl un yn awyddus i gyd-gerdded gyda fi. Prin iawn fu unrhyw sgwrs am genedlaetholdeb. Dim ond unwaith y ces fy erlid’.
Ar hyd y ffordd, fe grebachodd unrhyw arwyddocâd a fu gan y slogan ‘Pwyliaid, Ewch Adre’ nes ei fod yn amherthnasol. Er hynny, fe benderfynodd Michal ei gadw fel teitl a rhyw fath o echel symbolaidd i’r prosiect: yn her i ddefnydd iaith sy’n anwybyddu’r profiad dynol wrth fynnu labeli’r ‘dieithr’ a’r ‘estron’; ac fel ffordd o osgoi cyffredinoli’r profiad dynol ac edrych ar yr agenda geowleidyddol trwy lygaid a phrofiad pob unigolyn.
Ac felly, ble mae ‘gartre’? Mae’n anodd cael gafael ar ateb. Mae’n gymleth. Mae’n benbleth llithrig sy’n drech nag amser a gweinyddiaeth.
Dyma yw hiraeth. Dyma yw heimet. Cartref.
Derbyniad Agoriadol
Iau 4 Ebrill, 7pm
Perfformiadau gan Gwenno a W.H. Dyfodol
Continue reading
Posted on January 24, 2019
Gosodwaith gan The Bureau of Lost Culture yw X-Ray Audio: Stori am ddiwylliant y rhyfel oer, technoleg bootleg, cerddoriaeth fel cyfrwng gwrthsafiad ac ymdrechu dynol. Yn ystod cyfnod y rhyfel oer yn yr Undeb Sofietaidd roedd y Wladwriaeth yn rheoli cerddoriaeth yn llym. Cafodd nifer fawr o ganeuon o’r Gorllewin a Rwsia eu gwahardd am resymau ideolegol. Ond fe lwyddodd cymuned danddaearol fentrus o smyglwyr cerddoriaeth i herio’r drefn ac osgoi rheolau’r sensoriaid. Roedd eu hymateb i’r sefyllfa yn feiddgar ac enbyd o beryglus. Fe adeiladon nhw beiriannau recordio er mwyn creu copiau o’r recordiau a waharddwyd gan ddefnyddio hen ffilmiau x-ray. Yna fe aethon nhw ati i ddosbarthu’r jazz, y roc a rôl a’r gerddoriaeth Rwsiaidd yr oeddent yn dwlu cymaint arno.
Yn ystod y pedair blynedd diwethaf, bu The Bureau of Lost Culture yn ymchwilio i’r hanes yma gan gynhyrchu llyfr, ffilm ddogfen wobrwyedig, digwyddiadau byw ac arddangosfa deithiol sydd wedi ennill clod a sylw rhyngwladol gan ddarlledwyr yn y Deyrnas Unedig, Ffederasiwn Rwsia, Israel, UDA ac Ewrop
Continue reading
Posted on October 22, 2018
Mae The Nemesis Machine yn ddarn mawr o waith sy’n cynrychioli cymhlethdodau’r ddinas amser real fel system sy’n newid a symud yn barhaol. Mae’n darlunio bywyd yn y metropolis ar sail data amser real sy’n cael ei ddarlledu o rwydwaith o synwyryddion, gan olygu bod y ddinas replica, o ddarnau electronig, yn adlewyrchu, mewn amser real, yr hyn sy’n digwydd y tu allan. Mae’r Nemesis Machine yn edrych yn debyg i Big Brother drwy lens Rhyngrwyd y Pethau. Mae’n rhoi golwg o’r awyr i’r ymwelwyr o ddinas seibernetig, clwstwr wedi’i animeiddio o ran ei olwg a’i sain o nendyrau a adeiladwyd o silicon a byrddau cylched.
Mae camerâu bychain yn tynnu lluniau o ymwelwyr y ddinas fel eu bod yn dod yn rhan o’r gwaith celf. Mae’r gwaith yma’n mynd y tu hwnt i ryngweithio syml gydag un defnyddiwr, drwy fonitro a bwrw golwg ar ymddygiad, gweithgareddau a gwybodaeth newidiol yn y byd o’n cwmpas gan ddefnyddio dyfeisiau wedi’u rhwydweithio a gwybodaeth wedi’i throsglwyddo’n electronig ar draws y rhyngrwyd. Mae hyn yn cynnwys arsylwi o bell drwy synwyryddion wedi’u creu’n bwrpasol, cyfrifiaduron a chamerâu wedi’u rhwydweithio. Mae’r gwaith celf yn diwygio’r wybodaeth a’r data yma gan greu’r hyn y mae’r artist yn ei alw’n ‘realitioedd paralel’.
Trwy’r Nemesis Machine, mae Stanza yn creu gofod cymdeithasol newydd sy’n bodoli rhwng y rhwydweithiau ar-lein annibynnol lle bydd dinasyddion y dyfodol yn cael eu cyfuno mewn amser real i greu dinasyddion data wedi’u cysylltu â’i gilydd. Daw’r tirlun yn rhywbeth y gellir ei wylio. Mae’r gwaith yma’n gofyn pwy sy’n berchen ar y data ac yn rhagweld y bydd ffiniau rhithwir yn creu systemau newydd o reolaeth.
Derbyniad Agoriadol
Gwener 5 Ebrill, 3 - 4pm
Continue reading